Ray Gravell

Ray Gravell - Gwyn Thomas

Roedd ffrwydriadaumwy nag un ffrwydrad ar y sgrîn –

Grav oedd yno yn ymdrinymdrin â = ymwneud â

 rygbi.

 

Roedd cynhesrwydd yn y radio;

Fo oedd yno yn ymgomiocynnal sgwrs; siarad

Felly’r oedd o.

 

Roedd gwisgo jersicrys goch yn tanio

Ynddo genedl hen y Cymro –

Haleliwiabloedd o fawl i Dduw .

 

Roedd o yno’n gawr cyhyrogâ chyhyrau amlwg

Yn dal y cledd... uwch bardd y Steddfod –

Dyna fo.

 

Roedd egni angerddteimlad cryf iawn ein Cymreictod

Yn gryfach ynom o’i adnabod –

Dyna Grav.

 

Roedd calonnau pawb yn curo

Yn llawenachmwy llawen o gael sgwrsio

Gydag o.

 

Roedd 'na olau yn ei galon

A wnâi i ni, bob un ohonom

Deimlo’n well.

 

Mae hi’n Dachwedd yma heno,

Du, digofus... ; gaeaf eto

Arnom hebddo.

 

Mae mudandoddistawrwydd hollol ar y sgrîn,

Nid yw o yno yn ymdrin

Â’n bywydau.

 

Ond ni wna’i angerdd o ddadfeiliodadfeilio = syrthio'n ddarnau ,

Ni wna’i afiaithbwrlwm o fywyd o ddim peidio,

Ni wna’i ysbryd o edwino

Tra bôm ni sydd yma’n cofio.

 

Roedd 'na rywbeth a oedd ynddo

Oedd yn cyffwrdd ac yn deffro

Grym graslonrwyddy cyflwr o fod yn raslon ... :

Diolch iddo.

 

 

(allan o Murmuron Tragwyddoldeb a Chwningod Tjioclet, Gwyn Thomas, Cyhoeddiadau Barddas, 2010)

Chwaraeodd Ray Gravell fel canolwr dros dimoedd Llanelli, Cymru a’r Llewod nôl yn y 1970au a’r 1980au. Ond roedd Grav yn gymaint mwy na chwaraewr rygbi, a phan fu farw ddiwedd Hydref 2007 yn 56 oed, bu tristwch mawr drwy Gymru a thu hwnt. Roedd Grav yn gymeriad cynnes, byrlymus a hoffus; yn Gymro i’r carn, yn frwd dros y Gymraeg a phethau Cymraeg, o ganeuon Dafydd Iwan i Orsedd y Beirdd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Bu’n gyflwynydd a sylwebydd ar y radio a’r teledu; bu’n actor; bu’n ffrind i bawb. Bu’n ŵr ac yn dad i ddwy ferch fach. Ac yn y gerdd hon, er y tristwch, mae Gwyn Thomas yn ceisio dangos i ni fod Ray Gravell yn berson arbennig iawn, iawn.

grav-main.jpg
Ray Gravell (1951 - 2007)

Rhaglen Heno S4C 2017 yn cofio 10 mlynedd ers colli Ray Gravell:

Cân deyrnged Caryl Parry Jones i gofio Ray Gravell, 'West is Best':

Gwyn Thomas (1936 - 2016)

 

89230866 gwyn thomas mawr

  • Bardd ac Ysgolhaig
  • Ganed 2 Medi 1936. Bu farw 13 Ebrill 2016 yn 79 mlwydd oed.
  • Bardd a gafodd ei eni yn Nhanygrisiau a’i fagu ym Mlaenau Ffestiniog. Cafodd ardal Blaenau Ffestiniog ddylanwad mawr ar ei waith.
  • Cyn Athro a Phennaeth yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Bangor
  • Bardd Cenedlaethol Cymru 2006 – 2008
  • Ffaith ddiddorol: Fe gyhoeddodd Gwyn Thomas 16 cyfrol o farddoniaeth. Yr oedd hefyd yn awdur nifer o gyfrolau eraill.

Gweithgaredd 1

Atebwch y cwestiynau canlynol.

Gweithgaredd 2

Mae’r brawddegau yn eu tro yn rhoi crynodeb o saith pennill cynta’r gerdd. Aildrefnwch y brawddegau i gyfateb â threfn y penillion yn y gerdd.