Linda Waz Ere

Linda Waz Ere - Aled Lewis Evans

Linda,

rwy’n dy gyfarchcyfarch = dweud ‘Helô’  rŵannawr

er nad ydw i yn dy 'nabod di.

 

Yma ar wal y Prom

yn y Rhyl

syllaf ar d'ymgaisdy ymgais

at anfarwoldebcael byw am byth graffiti.

 

Rhyw ddydd pan oedd y semént

                      yn feddal

a thithau awydda thi hefyd ag awydd  gadael d'ôldy ôl

ar yr hen fyd 'mayma ,

rhoist dy fys

i fandaleiddiogwneud niwed i eiddo yn fwriadol ’r hen semént cynnes:

‘Linda waz ere’,

a dyna sut yr ydw i’n dy 'nabod di

i’th gyfarch.

 

Roeddwn am i ti wybod

ein bod ni i gyd yr un fath

yn yr hen fyd 'ma –

eisiau gadael rhyw argraffmarc, ôl

ar ein marwoldeb... .

 

Wn i ddim o’th hanes, Linda,

dim ond mai hanes y ddynoliaethdynoliaeth wyt ti,

heddiw.

 

(allan o Sglefrfyrddio, Aled Lewis Evans, Cyhoeddiadau Barddas, 1994)

Mae graffiti o’n cwmpas ymhob man, ac mae gan bawb eu rhesymau gwahanol am adael eu hôl ar waliau neu ddrysau neu lorïau neu ble bynnag. Y ffurf fwyaf gyffredin ar graffiti yw’r ‘X waz ere’, ac yn y Rhyl, fe welodd Aled Lewis Evans esiampl o hyn wedi’i gadael mewn semént. Yn y gerdd, mae’r bardd yn dychmygu ei fod yn siarad â’r ferch a ysgrifennodd ei neges yno.

Aled Lewis Evans

 

Bardd ac awdur sy’n ysgrifennu yn Gymraeg a Saesneg. Mae’n bregethwr ac yn byw yn ardal Wrecsam.

Roedd ei gyfrol o farddoniaeth, Llinynnau, a gyhoeddwyd yn 2016, yn cynnwys 60 o gerddi newydd.

 

Aled Lewis Evans 3

 

Gweithgaredd 1

Uwcholeuwch bob ymadrodd yn y gerdd sy’n dangos fod y bardd yn dychmygu ei hun yn siarad yn uniongyrchol â Linda.

Gweithgaredd 2

Pa linellau yn y gerdd sy’n dangos i ni fod y bardd yn cydymdeimlo â Linda?

Gweithgaredd 3

Anagramau o ba eiriau yn y gerdd yw'r canlynol?

Gweithgaredd 4

Dim ond tri ansoddair sy’n cael eu defnyddio yn y gerdd i gyd, ac mae un ohonyn nhw’n cael ei ddefnyddio dair gwaith. Dewch o hyd iddyn nhw.

Gweithgaredd 5

Cysylltwch y gair gyda'r disgrifiad cywir.