Sŵn

Sŵn - T. Llew Jones

Liw nosyn nhywyllwch y nos  ni chlywirni all neb glywed , medden nhw maen nhw’n dweud ,

Ond hwtiany sŵn y mae tylluan yn ei wneud oer y gwdi-hŵtylluan :

Mae pawb a phopeth yn y cwm

Yn ddistaw bach yn cysgu’n drwm.

 

Ond celwydd noeth yw hynny i gyd,

Mae’r nos yn llawn o sŵn o hyd;

Mi glywais i, un noson oer,

Sŵn cŵn yn udosŵn tebyg i flaidd ar y lloer.

 

Mi glywais wedyn, ar fy nghairrwy’n addo ,

Sŵn llygod bach yn llofft y gwairystafell uwchben stabl ...

Rhyw sŵn fel sŵn y gwynt trwy’r dail,

Rhyw gyffro bach a sibrwd bob yn ail.

 

A chlywais wedyn, ar ôl hyn,

Grawciansŵn cras fel crawc ...  brogaod yn y llyn;

A chlywais unwaith, ar fy ngwirrwy’n addo ,

Gyfarth y llwynog o’r Graig Hir.

 

Pan ddring y lloerpan fydd y lleuad yn dringo  a’r sêr i’r nen,

A gwaith y dydd i gyd ar ben,

Pan gilia pawbpan fydd pawb yn cilio  i’r tŷ o’r closbuarth fferm ,

Cawn gyfle i wrando ar leisiau’r nos.

 

(allan o Trysorfa T. Llew [T. Llew Jones], gol. Tudur Dylan Jones, Gomer, 2004)

A yw’r nos yn codi ofn arnoch? Mae’n dywyll, wedi’r cyfan, ac yn dawel, dawel. Ond a yw’r nos mor dawel â hynny, mewn gwirionedd? Yn sicr, nid yw’r bardd a’r awdur enwog T. Llew Jones yn meddwl hynny. Yn y gerdd hon, mae’n enwi’r holl synau y clywai yn y nos pan oedd yn blentyn, ac yn enwedig felly synau’r anifeiliaid.

T. Llew Jones (1915 – 2009)

 

tllewjones01

 

Roedd T. Llew Jones (Thomas Llewelyn Jones) yn fardd ac yn un o awduron llyfrau plant mwyaf poblogaidd Cymru. Mae’n cael ei ystyried fel brenin llenyddiaeth plant Cymru.

Cafodd ei eni ym Mhentrecwrt, sir Gaerfyrddin yn 1915 ac ar ôl gwasanaethu yn yr Ail Ryfel Byd, daeth yn ôl i Gymru a hyfforddi i fod yn athro. Bu’n dysgu yn Ysgol Talgarreg cyn dod yn brifathro yn Ysgol Tre-groes ac yna yn Ysgol Coed-y-bryn. Ceredigion oedd ei filltir sgwar.

Bu’n ysgrifennu am hanner can mlynedd, gan gyhoeddi dros 50 o lyfrau i gyd. Roedd yn hoff iawn o ysgrifennu straeon antur i blant a straeon am arwyr gwerin Cymru. Yn eu plith mae nofelau enwog fel Trysor Plasywernen, Tân ar y Comin, Barti Ddu a Dirgelwch yr Ogof. Mae rhai o’i nofelau wedi eu haddasu’n ffilmiau a rhaglenni ar gyfer y teledu.

Roedd T. Llew Jones yn fardd llwyddiannus ac fe enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ddwy flynedd yn olynol yn 1958 a 1959. Cyhoeddodd ddwy gyfrol o farddoniaeth i blant, gyda cherddi fel ‘Cwm Alltcafan’ yn dod yn boblogaidd ymysg plant ac oedolion.

Bu farw yn 93 mlwydd oed ym mis Ionawr 2009. Yn 2012 fe elwid ysgol gynradd newydd ym Mrynhoffnant, Ceredigion, yn Ysgol Gynradd Gymunedol T. Llew Jones, er cof amdano.

Rydym hefyd yn dathlu diwrnod cenedlaethol T. Llew Jones yn flynyddol yng Nghymru o gwmpas cyfnod ei ben-blwydd, sef 11 Hydref.

 

86042295 bdd5c34f c98b 4788 a3d4 074315266b60

 

Hysbyseb S4C ar gyfer rhaglenni i gofio T. Llew Jones.

Gweithgaredd 1

Allwch chi uwcholeuo'r holl synau anifeiliaid penodol sy’n cael eu nodi yn y gerdd?

Gweithgaredd 2

Gosodwch yr anifeiliaid yn y drefn y maen nhw’n ymddangos yn y gerdd.

Gweithgaredd 3

Allwch chi ddod o hyd i'r anifeiliaid yn y croesair?

Gweithgaredd 4

Mae gair olaf llinell 1 a gair olaf llinell 2 yn odli â'i gilydd, a gair olaf llinell 3 a gair olaf llinell 4 hefyd yn odli â'i gilydd. Yr enw ar bâr o linellau sy'n odli fel hyn yw 'cwpled'.

Ydych chi'n gallu dod o hyd i'r parau sy'n odli?