Ydych chi'n cofio beth yw pob un o'r nodweddion arddull?
Cyffelybiaeth/Cymhariaeth
Gosod dau beth ochr yn ochr er mwyn eu cymharu a dangos y tebygrwydd rhyngddynt. Mae cyffelybiaeth yn cael ei chyflwyno gan y gair ‘fel’ neu ‘mor’:
e.e.
Mae’r nos fel y frân
Mae’r nos mor ddu â’r frân.
Trosiad
Trosi gair o’i ystyr lythrennol er mwyn awgrymu tebygrwydd rhwng dau beth. Mae trosiad yn debyg i gyffelybiaeth, ond nid oes angen y geiriau ‘fel’ neu ‘mor’ i’w gyflwyno:
e.e.
Mae mynydd o gic gan y maswr.
(Cyffelybiaeth: ‘Mae gan y maswr gic sydd mor uchel â mynydd’)
Personoli
Defnyddio nodweddion person i ddisgrifio rhywbeth nad ydyw’n berson:
e.e.
Mentrais i geg yr ogof.
Ansoddeiriau
Dyma’r geiriau sy’n cael eu defnyddio i ddisgrifio enwau:
e.e.
Ar noson dywyll mae’r seren mor ddisglair.
Cyflythrennu
Ailadrodd yr un sain ar ddechrau geiriau sy’n dilyn ei gilydd neu sy’n agos iawn at ei gilydd:
e.e.
‘Dan heulwen hydref, mae’r dail yn dawnsio.’
Sylwer: weithiau mae’r un ymadrodd yn gallu cynnwys mwy nag un nodwedd arddull. Nid yn unig y mae ‘dail yn dawnsio’ yn cynnwys cyflythrennu, mae hefyd yn enghraifft o drosiad ac o bersonoli.
Gwrthgyferbyniad
Gosod delweddau neu syniadau nesaf at ei gilydd er mwyn amlygu’r gwahaniaeth rhyngddynt:
e.e.
‘Mae’r awyr mor fawr a minnau mor fach.’
Synhwyrau
Mae beirdd yn hoff o nodi ymateb y synhwyrau i ryw brofiad neu ei gilydd, er mwyn dod â’r profiad hwnnw yn fyw i’w darllenwyr:
e.e
Mor oer yw sgrechian yr wylan wen
ac oglau’r gwymon mor hallt â’r pren..
Onomatopoeia
Gair, neu gyfuniad o eiriau, lle mae’r sŵn yn adlewyrchu’r ystyr:
e.e.
‘Rwy’n ofni crawc y frân?’
neu
‘Gan ysgwyd yr hwyliau, nid siffrwd mae’r gwynt
ond chwiban a gwichian yn gynt ac yn gynt?’
Ailadrodd
Defnyddio’r un gair neu eiriau fwy nag unwaith er mwyn creu effaith arbennig:
e.e.
‘Dagrau du yw’r dagrau hynny,
dagrau sydd yn gwrthod sychu.’
Cwestiwn rhethregol
Cwestiwn i greu argraff, cwestiwn nad oes angen ei ateb:
e.e.
‘Pwy all gyfri’r sêr uwchben?’
Cynghanedd
Crefft unigryw y beirdd Cymraeg, crefft sy’n cyfuno odli mewnol ac ailadrodd cytseiniaid yn eu trefn.
Mae pedwar math o gynghanedd:
(i) Cynghanedd groes, e.e. ‘Mi rwyfais ym maw’r afon’
(ii) Cynghanedd draws, e.e. ‘Mi rwyfais lle mae’r afon’
(iii) Cynghanedd sain, e.e. ‘Heriais, rhwyfais yr afon’
(iv) Cynghanedd lusg e.e. ‘Mi heriaf byllau’r afon’
Cynghanedd Groes
Egwyddor cyffredinol (i) yw bod y cytseiniaid yn rhan gyntaf y llinell yn cael eu hailadrodd yn yr un drefn yn yr ail ran:
e.e.
Mi rwyfais ym maw’r afon = m r f / m r f
Cynghanedd Draws
Egwyddor cyffredinol (ii) yw bod y cytseiniaid yn rhan gyntaf y llinell yn cael eu hailadrodd yn yr un drefn yn yr ail ran, ond bod hawl anwybyddu unrhyw gytseiniaid ar ddechrau’r ail ran er mwyn cyrraedd yr ailadrodd hwnnw:
e.e.
Mi rwyfais lle mae’r afon = m r f / (ll) m r f
Cynghanedd Sain
Egwyddor cyffredinol (iii) yw bod tair rhan iddi, a bod diwedd rhan 1 yn odli â diwedd rhan 2, a bod y cytseiniaid yn y gair ar ddiwedd rhan 2 yn cael eu hailadrodd yn rhan 3:
e.e.
Heriais rhwyfais yr afon = 1 odl 2 odl + r f 3 r f
Cynghanedd Lusg
Egwyddor cyffredinol (iv) yw bod y gair ar ddiwedd rhan gynta’r llinell yn odli gyda sillaf olaf ond un y gair ar ddiwedd yr ail ran:
e.e.
Mi heriaf byllau’r afon