Cân Shane - Myrddin ap Dafydd
Caeau y wlad sy’n culhaumynd yn fwy cul –
lle main sydd rhwng llumanaubaneri bach ;
mor benstiffpenstiff = ystyfnig pob amddiffyn
â lein y dacl yno’n dynn,
ond rhowch hawl i’r diawldiafol bach da
am ennydysbaid o amser – a ’dio’m ynanid yw o (ef) yna .
Mor esmwyth â’r tylwyth teg
drwy rwyd y daw ar redeg
a hanner llamnaid , chwarter lle
yn gyflym droith(a) droith = (a) fydd yn troi yn gyfle;
enfys bert yr ystlysymyl y cae bell
yn llawn pelydrau’r llinell.
Hwn diclith(a) diclith = (a) fydd yn ticlo ffordd drwy daclwyr;
y gwalchaderyn ysglyfaethus; bachgen drygionus sydd o gyrraedd gwŷrdynion :
naid neu gic, newid un gêr
a dacw faes dwy acererw
a lein wen – mae’i elyn o
yn dal ei ben mewn dwylo...
Sgwarnogysgyfarnog yr Ogi-Ogi,
cawr y trics sy’n curo tri
a’n baich sy’n her i’r bychan–
nid mawr yw’r mawr ymhob man;
dewin lled ewin o dir... –
'monddim ond olion mynd a welir.
(allan o Bore Newydd, Myrddin ap Dafydd, Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
Gêm i fechgyn a merched mawr cryf yw rygbi, medden nhw. Nid felly yng Nghymru, lle mae hanes y gêm yn llawn o chwaraewyr llai eu maint, a’r rheini’n ddawnus, cyfrwys a chwim. Dyma’r arwyr sy’n curo’r gwrthwynebwyr drwy sgiliau disglair a gweledigaeth sydyn yn hytrach na thrwy wthio a hyrddio difeddwl. Un o’r rheini oedd yr asgellwr Shane Williams, a chwaraeodd 87 o weithiau i Gymru rhwng 2000 a 2011, gan sgorio 58 o geisiau, y mwyaf gan Gymro erioed. Yn y detholiad hwn o’i gywydd, mae Myrddin ap Dafydd yn canmol gallu Shane Williams i gyflawni gwyrthiau ar y cae rygbi.
Uchafbwyntiau Shane Williams i Gymru:
Myrddin ap Dafydd
- Mae’r Prifardd Myrddin ap Dafydd yn awdur nifer fawr o gyfrolau i blant ac oedolion.
- Mae’n dod yn wreiddiol o Lanrwst, ond yn byw bellach ger Pwllheli yng Ngwynedd.
- Enillodd y Gadair yn Eisteddfodau Cenedlaethol 1990 a 2002.
- Mae’n rhedeg cwmni cyhoeddi a sefydlwyd ganddo yn 1980, sef Gwasg Carreg Gwalch.
- Myrddin ap Dafydd oedd Bardd Plant cyntaf Cymru yn y flwyddyn 2000.
- Yn 2018 cafodd ei ethol yn Archdderwydd nesaf Cymru a bydd yn y swydd honno rhwng 2019 a 2022.
Gweithgaredd 1
Er bod y gerdd yn llawn disgrifiadau dychmygus o Shane Williams, dim ond un gyffelybiaeth/gymhariaeth sydd ynddi. Pa un o’r llinellau sy’n cynnwys cyffelybiaeth/cymhariaeth?
Gweithgaredd 2
Mae’r gerdd yn llawn trosiadau sy’n pwysleisio gallu anhygoel Shane Williams, e.e. ym mhennill 2, mae’r bardd yn ei alw’n ‘enfys’ yn y cwpled ‘enfys bert yr ystlys bell / yn llawn pelydrau’r llinell’.
Uwcholeuwch y trosiadau eraill sy’n disgrifio Shane.
Gweithgaredd 3
Cywydd yw’r enw ar y ffurf hon o gerdd.
Mae’n odli fesul cwpled, gyda diwedd un llinell yn acennog a diwedd y llall yn ddiacen:
e.e. edrychwch ar y cwpled canlynol:
'Ond rhowch hawl i’r diawl bach da
am ennyd – a ’dio’m yna’
Mae ‘da’ yn air acennog ac ‘yna’ yn air diacen.
Mae'r rhestr ganlynol o eiriau o'r gerdd yn cynnwys geiriau acennog a diacen:
teg - lle - pell - rhedeg - cyfle - gwŷr - llinell - taclwyr - acer - gêr - o - dwylo - tri - ogiogi - bychan - man
Rhannwch y geiriau yn ddwy restr - acennog a diacen - a dewch o hyd i'r geiriau diacen yn y croesair.
Gweithgaredd 4
Anagramau o ba eiriau yn y gerdd yw’r canlynol?
TASG 1
Mewn parau, rhestrwch yr ymadroddion a’r geiriau yn y gerdd sy’n ymwneud â maint, boed hynny’n faint corfforol neu’n faint gofod a lleoliad, e.e. ‘caeau y wlad sy’n culhau’.
TASG 2
Lluniwch frasluniau neu gartŵnau i gyfleu’r trosiadau o Shane Williams yn y gerdd.
TASG 3
a) Chwiliwch ar y we am glip o Shane Williams yn sgorio cais.
b) Paratowch bwt o sylwebaeth i ddisgrifio’r cais hwnnw.
TASG 4
Dewiswch un arall o sêr y campau ac ysgrifennwch bortread creadigol ohono neu ohoni (300 o eiriau).
Canolbwyntiwch ar ddisgrifio ei symudiadau ac osgo wrth iddo/iddi berfformio ei gamp/champ, yn hytrach nag ar ffeithiau moel.
Ceisiwch fod yn ddychmygus iawn, gan gynnwys cymaint o gyffelybiaethau/gymhariaethau a throsiadau ag sy’n bosib.
Tafle holl dasgau Cân Shane:
- PDF (.pdf): Tasgau-Can-Shane.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Can-Shane.docx