Chwaraeon

Chwaraeon - Mari Lovgreen

Mae’n gas gen i chwaraeon,

Dwi’n berson diogddim am weithio neu ymdrechu iawn.

Mae’n well gen i fy soffa

Drwy’r bore a phrynhawn.

 

Does gen i'mi ddim  awydddymuniad cryf neidio

Na chwysu chwaith, deud gwir‘a dweud y gwir’ .

Dwi ddim yn licio rhedeg

Na nofio am rhy hir.

 

Be ydi pwynt pêl fasged?

A golff a hoci iâ?

A gorfod chwarae rownderi

Bob dydd o’r gwyliau ha’?

 

A pheidiwch sôn am rygbi

A’r holl rowlio yn y baw.

Sa’n well gen i gorila

Yn swsiancusanu cefn fy llaw.

 

O rhaid, rhaid imi newid,

Mae’n bwysig bod yn iach

Ond os bydd rhaid ymarfer:

Wel, chydigychydig, tamaid bach yn ara’ bach.

 

(allan o Geiriau Bach Chwareus, Gwasg Carreg Gwalch, 2016)

Nid pawb, wrth gwrs, sy’n mwynhau chwaraeon ac ymarfer corff. Yn y gerdd ‘Chwaraeon’ mae Mari Lovgreen yn cyfaddef ei bod hi’n berson diog, cyn rhestru rhai o’r gêmau nad yw hi yn eu hoffi, gan holi pam mae’n rhaid eu chwarae o gwbl.

Mari Lövgreen

 

 AFR DPW140218CefnGwlad04

 

Un o Gaernarfon ydi Mari Lövgreen yn wreiddiol ac mae hi’n adnabyddus fel cyflwynwraig deledu ar S4C. Dechreuodd ei gyrfa yn cyflwyno rhaglen i bobl ifanc o’r enw Uned 5 ac ers hynny mae hi wedi ymddangos ar nifer o raglenni i blant a digwyddiadau byw. Yn 2018 roedd hi’n cyflwyno Stwnsh Sadwrn a rhaglen Cefn Gwlad. Mae hi’n byw ar fferm yn ardal Llanerfyl ym Mhowys ac hefyd wedi hyfforddi fel athrawes.

 

Gweithgaredd 1

Uwcholeuwch y parau o eiriau sy’n odli â’i gilydd ymhob pennill yn y gerdd.

Gweithgaredd 2

Ydy'r brawddegau canlynol yn gywir neu'n anghywir?

Gweithgaredd 3

Aildrefnwch yr ymadroddion canlynol i greu un pennill o’r gerdd. 

Gweithgaredd 4

Pa ddyfyniad o’r gerdd sy’n esiampl o ailadrodd?

Gweithgaredd 5

Mae nifer o ferfenwau yn cael eu defnyddio yn y gerdd. Dewisiwch y rhai cywir o’r rhestr.