Ap

Ap - Anni Llŷn

Mae gen i...

ap arallfydioncreaduriaid o'r gofod ,

ap adeiladu,

ap dawnsio,

ap canu,

ap ffrwydrochwythu’n ddarnau  fferinsmelysion, losin ,

ap rhifocyfri ,

ap byrstio balŵns,

ap lliwio,

ap creu cacen,

ap pwniotaro, bwrw pêl,

ap anifail anwes,

ap casglu mêl,

ap chwarae tennis,

ap wyneb gwirionchwerthinllyd, ffôl, dwl ,

ap sŵn rhechu,

ap gwenud aceniondynwared acenion pobl arall ,

 

Mae pob ap fel parti

ar fy teclyndyfais bach hud.

Ond beth yw’r pwynt cael parti

heb ffrindiau yn y byd.

 

(allan o Dim Ond Traed Brain, Anni Llŷn, Gomer, 2016)

A oes gennych declyn? Os oes, a oes gennych apiau (apps) ar y teclyn hwnnw? Wel, oes, siwr. Mae’n anodd dychmygu byd heb apiau erbyn hyn. Mwy na hynny, mae’n ymddangos fel petai ap ar gyfer popeth dan haul. Yn y gerdd hon, mae Anni Llŷn yn rhestru rhai o’r apiau sydd ganddi eisoes, er bod ei rhestr yn cynnwys nifer o apiau sydd heb hyd yn oed eu creu eto! Ond er mor falch yw hi o’r apiau hyn, mae un peth yn bwysicach o lawer na hynny, fel y clywn ni yn y pennill olaf.

Anni Llŷn

 

poetJPG

 

  • Cyflwynwraig, bardd ac awdures o Sarn Mellteyrn, Llŷn, Gwynedd.
  • Anni Llŷn oedd Bardd Plant Cymru rhwng 2015 a 2017.
  • Mae Anni yn wyneb cyfarwydd i blant a phobl ifainc Cymru gan ei bod yn un o gyn-gyflwynwyr rhaglen Stwnsh S4C.
  • Anni oedd enillydd Coron Eisteddfod yr Urdd yn 2012. Mae hi hefyd wedi cyhoeddi nofelau a llyfrau i blant.

 

Gweithgaredd 1

Uwcholeuwch yr esiamplau o gyflythrennu yn y pennill cyntaf.

Gweithgaredd 2

Atebwch y cwestiynau canlynol am y gerdd.

Gweithgaredd 3

Mae deg o eiriau’r gerdd yn cuddio yn y chwilair hwn - chwiliwch amdanyn nhw.

Gweithgaredd 4

Llusgwch y parau sy'n odli at ei gilydd.