Hunlun - Gruffudd Owen
(Ymson merch ysgol ar Facebook)
Yn rhadheb fod yn ddrud , cewch fy nireididireidi = drygioni chwareus, hwyl , – cewch fy ngwallt
cewch fy ngwggwg = golwg chwareus o ddifrifol fach secsi
dair-ar-ddeg, cewch fy rhegi,
cewch fy ollpopeth ; jyst liciwch fi.
(allan o Hel Llus yn y Glaw, Gruffudd Owen, Cyhoeddiadau Barddas, 2015)
Hunlun
Gruffudd Owen yn darllen ei englyn, 'Hunlun':
Mae pawb yn hoff o dynnu hunlun (‘selfie’). Mae’n gyfle i ni gofnodi ein bod wedi bod mewn rhyw fan arbennig, neu ddigwyddiad arbennig, neu yng nghwmni rhywun arbennig. Yn ogystal â bod yn hwyl, felly, mae’n rhyw fath o brawf. Ond beth yw diben yr hunluniau hynny wedyn? Mae’r ferch yn y gerdd hon wedi rhoi llun ohoni ei hun ar Facebook, ac er nad yw’r geiriau hyn yn ymddangos gyda’r hunlun go iawn, dyma mae’r bardd yn dychmygu sy’n mynd drwy feddwl y ferch.
Hunlun - eglurhad y bardd
Beth sydd gan y bardd, Gruffudd Owen, i'w ddweud am ei gerdd?
Gruffudd Owen
Dewch i adnabod y bardd:
Gweithgaredd 1
Atebwch y cwestiynau canlynol am y gerdd.
Gweithgaredd 2
Yn y geiriau ‘yn rhad’ a ‘fy nireidi’, mae’r cytseiniaid ‘n’, ‘r(h)’ a ‘d’ yn ymddangos yn yr un drefn yn y ddau ymadrodd (‘yn rhad’/‘fy nireidi’). Cynghanedd yw hyn.
Uwcholeuwch y cytseiniaid sy’n ymddangos yn yr un drefn yn y parau canlynol o eiriau.
Gweithgaredd 3
Englyn yw'r enw ar y ffurf hon o gerdd. Fel y gwelwch, mae pedair llinell mewn englyn. O gyfri'r holl sillafau mewn englyn, byddech yn dod i gyfanswm o 30 bob tro.
Ond, sawl sillaf sydd ymhob llinell unigol o'r englyn?
TASG 1
Mae’r bardd yn ailadrodd ‘cewch fy’ drwy’r englyn.
Pam y tybiwch chi y mae’n gwneud hyn? Pa effaith y mae’n ceisio’i chreu?
TASG 2
Ceisiwch ddyfalu sut berson yw’r ferch ysgol yn yr englyn.
- Pam ei bod hi wedi rhoi’r hunlun hwn ar Facebook?
- Sut fywyd sydd ganddi hi, tybed?
- A ydych yn cydymdeimlo â hi? Pam?
TASG 3
Dychmygwch eich bod wedi gosod llun ohonoch chi eich hun ar Facebook neu wefan gymdeithasol debyg.
Mewn pedair llinell, nodwch ba negeseuon y byddech yn dymuno i’r llun hwn gyfleu i’r sawl sy’n gweld y llun ar-lein.
TASG 4
Dychmygwch fod y ferch yn yr englyn yn gwneud dyddiadur fideo o wythnos yn ei bywyd hi ei hun. Ysgrifennwch sgript (300 o eiriau) un o’r cofnodion dyddiadur hynny, gan gofio:
- sôn am ddigwyddiadau penodol yn ystod y dydd
- sôn am ymateb y ferch i brofiadau’r dydd ac am y modd y mae’r pethau hynny yn nodweddiadol o’i bywyd.
Cofiwch ysgrifennu yn y person cyntaf, gan ddychmygu mai chi yw’r ferch.
(Byddai’n syniad da perfformio’r cofnod dyddiadur fideo hwn, a’i ffilmio, hyd yn oed.)
TASG 5
Englyn yw’r enw ar y ffurf hon o gerdd.
a) Mewn grwpiau, ewch i chwilio mewn llyfrau ac ar y we am englyn arall sy’n apelio.
b) Cyflwynwch yr englyn i’r dosbarth, gan egluro pam eich bod wedi dewis yr englyn a beth yw neges y bardd.
c) Casglwch englynion y dosbarth ynghyd.
- PDF (.pdf): Hunlun-Tasg-5.pdf
Taflen holl dasgau Hunlun:
- PDF (.pdf): Tasgau-Hunlun.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Hunlun.docx