Pethau Bychain

Pethau Bychain - Mei Gwynedd

Cawsom draethau aur, mynyddoedd a bryniau mwyn

Lle mae nentyddmwy nag un nant pur yn canu rhwng y brwyn;

Cawsom yr iaith Gymraeg i’w meithrinmagu a’i chadw’n iach,

Felly, frodyr a chwiorydd, gyda’n gilydd gwnawn y pethau bach.

 

Cytgan

Maen nhw’n ein clywed dros y sir,

Maen nhw’n ein clywed dros y ffiniaumwy nag un ffin ,

Maen nhw’n ein clywed ni ym mhen draw’r byd

Yn gwneud y pethau bychain nawr.

 

Mae rhai yn byw'n y wlad ac eraill yn y dre,

A’r hyn sy’n 'hunouno = gwneud yn un ni yw bod ni’n siarad iaith y neiaith y nef ... ;

Mae gwahanol ddywediadaudywediadau ... , rhai wrth ein boddau a rhai sy’n flin,

Ond dim ond un ffordd sydd i ddweud ‘Dwi’n dy garu di’.

 

Cytgan

Maen nhw’n ein clywed dros y sir ...

 

Nawr yw ein hamser ni,

Cryfhawnfe ddown ni’n gryfach  drwy eiriau Dewi

O’r Preseliardal yn Sir Benfro ... lan drwy FônMôn = Ynys Môn / Sir Fôn

Ledled Cymrudros Gymru i gyd , canwn oll yn llon.

 

Ry’ ni’n eu gwneud nhw bob dydd,

Yn gwneud y pethau bychain nawr.

 

(Hawlfraint Mei Gwynedd)

Gwlad fach yw Cymru – a chanddi galon fawr. Ac weithiau mae’n braf cael dathlu’r pethau hynny sy’n gwneud Cymru yn wlad mor arbennig, yn wlad wahanol i wledydd eraill. A dyna mae’r cerddor Mei Gwynedd yn ei wneud yng ngeiriau’r gân hon, cân a gyfansoddwyd wrth iddo deithio o amgylch ysgolion Cymru. Recordiwyd y gân mewn cyfres o weithdai gyda phobl ifanc yn chwarae'r darnau offerynnol, gan gynnwys drymiau a bâs yn Llangefni, gitarau yn Llanelli a chôr yng Nghrymych. Mae’r teitl wedi ei ysbrydoli gan eiriau olaf Dewi Sant: ‘Gwnewch y pethau bychain a welsoch ac a glywsoch gennyf i’.

Gwyliwch y fideo i ddysgu am y broses o greu'r gân:

Mei Gwynedd

g. 1976

Mae Mei Gwynedd (Meilir Gwynedd) yn gerddor a gitarydd o Waunfawr, Gwynedd. Mae’n gyn-aelod o’r bandiau Big Leaves a Sibrydion. Fe gyhoeddodd ei albwm unigol cyntaf yn 2018 sef Glas.

 

maxresdefault 1

Gweithgaredd 1

Uwcholeuwch y geiriau sy’n ymwneud â thirwedd Cymru yn y pennill cyntaf. Mae pump ohonyn’ nhw.

Byddwch yn union wrth uwcholeuo.

Gweithgaredd 2

Atebwch y cwestiynau canlynol.

Gweithgaredd 3

Anagramau o ba eiriau neu ymadroddion yw’r canlynol?