Bws Ysgol - Gwion Hallam
Mor rhyfedd sut all taith
bob dydd
mewn bws
droi’n artaithpoen bwriadol byw,
a sut all croeso’r
droi’n hunllef breuddwyd cas real iawn
i un.
Mae’n eistedd hefo’iefo’i, gyda’i
fag fel ffrind
a’i groen yn gwrando’n chwys... ;
fel milwr ffilm sy’n cofio’r sgript
mae’n disgwyl bang y bom,
yn paratoi at glec
grenêdbom bychan i’w daflu â llaw y geiriau.
Oi gay-boy? Ma’ pawb yn gwbod!
Hei o ’ma, s’dim lle i homos... !
Ocê, os ti’n gê dwed y gwir!
Nid gofyn ond dweud
a neb eisiau ateb –
haws chwerthin a chwislanchwibanu
ar gelwydd sedd gefn
na gwrando ar y gwir:
gwell closio at y bwli
na’r boi sy’n diodde
ei boen.
(allan o Caneuon y Coridorau, Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Bws Ysgol
Gwion Hallam yn darllen ei gerdd, 'Bws Ysgol':
Sut le yw eich bws ysgol chi? Ai lle’n llawn sŵn direidus a chwerthin? Neu a oes rhywbeth mwy diflas ac annifyr amdano? Yn y gerdd hon, mae Gwion Hallam yn gofyn i ni sylwi ar un bachgen sy’n casáu’r siwrne ar y bws am ei fod yn gorfod dioddef sylwadau creulon rhai o ddisgyblion y sedd gefn bob dydd. O bosib bod rhai ohonoch chi wedi dod ar draws sefyllfaoedd tebyg ...
Bws Ysgol - eglurhad y bardd
Beth sydd gan y bardd, Gwion Hallam, i'w ddweud am ei gerdd?
Gwion Hallam
Dewch i adnabod y bardd:
Gweithgaredd 1
Aildrefnwch y geiriau a’u rhoi yn yr un drefn ag y maen nhw yn y gerdd ei hun.
Gweithgaredd 2
Ydy'r brawddegau canlynol yn gywir neu'n anghywir?
Gweithgaredd 3
Mae’r geiriau ‘clec’, ‘bang’ a ‘chwislan’ i gyd yn esiamplau o un nodwedd arddull arbennig, ond pa un?
Gweithgaredd 4
Mae 5 esiampl o gyflythrennu yn y gerdd. Dewch o hyd iddyn nhw.
TASG 1
a) Mewn grwpiau, ceisiwch greu ‘perfformiad’ o’r gerdd, fel petai’n olygfa mewn ffilm neu ddrama, yn hytrach na cherdd.
b) Wedi gwneud hynny, trafodwch os ydy hi’n gerdd addas i’w pherfformio neu beidio.
c) Ar sail eich perfformiad, crëwch ffilm fer sy’n ‘dangos’ y digwyddiad ar y bws, ac yn cynnwys cyfweliadau gyda’r bachgen a gafodd ei fwlio, un o’r bwlis ac un o’r rhai oedd ar y bws ond na wnaeth ymyrryd.
TASG 2
a) Sut ydyn ni’n dod yn ymwybodol o deimladau’r bachgen yn y gerdd?
b) Beth yw eich teimladau chi wrth ddarllen y gerdd?
TASG 3
a) Mewn parau, dewch o hyd i ddefnydd y bardd o'r nodweddion canlynol:
a) deialog
b) cymhariaeth estynedig.
b) Mae un ohonoch i edrych ar y ddeialog a’r llall i edrych ar y gymhariaeth estynedig.
c) Disgrifiwch i’ch partner pam fod y bardd yn defnyddio’r nodwedd yn y gerdd – beth yw’r effaith? A yw’n effeithiol?
TASG 4
Dychmygwch eich bod chi’n un o swyddogion y Chweched Dosbarth. Mae’r Pennaeth wedi gofyn i chi ysgrifennu adroddiad byr yn disgrifio’r digwyddiad ar y bws, fel rhan o ymchwiliad i achosion o fwlio.
Ysgrifennwch adroddiad (200-300 o eiriau) yn esbonio’n glir beth ddigwyddodd ar y bws y diwrnod hwnnw.
- PDF (.pdf): Bws-Ysgol-Tasg-4.pdf
Taflen holl dasgau Bws Ysgol (PDF):
- PDF (.pdf): Tasgau-Bws-Ysgol.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Bws-Ysgol3.docx