Garddwyr Oll - Karen Owen
Er bod mis Tachwedd arall
yn cloi’i gymalaucymalau ... ’n dynn,
fe ddaw y garddwr hirbendeallus a doeth
i balupalu = torri a chwalu pridd tir y chwyn;
a phlannu yno ei obaith mudheb eiriau neu heb sŵn
y gwêly bydd ef yn gweld fis Mai yn flodau i gyd.
Oherwydd gŵyr y garddwrmae’r garddwr yn gwybod
nad oes gorffwyso i fod
am mai ymaflydcydio yn; dal gafael yn; mynd i’r afael â cyson
â’r pridd sy’n troi y rhodnewid tymor ... ;
a gŵyr, 'rôl dadmerdadlaith; meirioli daear wleb,
gohiriosymud i ryw amser yn y dyfodol ’r gwanwyn ni all neb.
(allan o Yn Fy Lle, Karen Owen, Cyhoeddiadau Barddas, 2006)
Mae pobl wedi ymwneud â byd natur ers y cychwyn cyntaf un. Yn wir, mae gan rai berthynas agos iawn â’r ddaear, gan ofalu’n gydwybodol am eu darn bach nhw o dir. Mae ffermwyr yn esiampl amlwg, ond felly hefyd garddwyr, wrth gwrs. Maen nhw’n gwybod na ddaw cnydau a blodau yn eu llawnder yn y gwanwyn a’r haf heb waith paratoi fisoedd ymlaen llaw, gwaith caled iawn, gwaith sy’n mynd yn galetach wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Un o’r garddwyr hyn yw testun y gerdd hon gan Karen Owen, garddwr sy’n gwybod beth yw ei ddyletswyddau ef yn nhrefn y tymhorau.
Karen Owen
- Bardd a newyddiadurwraig o Ben-y-groes yn Nyffryn Nantlle.
- Bardd sydd wedi cystadlu mewn nifer o eisteddfodau bychain ar draws Cymru ar hyd y blynyddoedd.
- Mae hi wedi cyhoeddi dwy gyfrol o farddoniaeth – Yn Fy Lle yn 2006 a Siarad trwy’i Het yn 2011.
Gweithgaredd 1
Pa rai o’r ymadroddion canlynol sy’n awgrymu bod y gŵr yn y gerdd nid yn unig yn hen ond hefyd yn brofiadol a gwybodus?
Gweithgaredd 2
Uwcholeuwch y berfau yn y gerdd.
Gweithgaredd 3
Pa nodwedd arddull sydd yn y syniad fod y garddwr yn dod i’r ardd a ‘phlannu yno ei obaith mud’?
Gweithgaredd 4
Ydych chi'n gallu dod o hyd i'r parau sy'n odli?
TASG 1
Mewn parau, trafodwch pam y mae’r bardd wedi enwi mis Tachwedd a mis Mai yn benodol. Ystyriwch:
- beth sy’n arbennig am y misoedd hynny?
- a oes i’r misoedd hynny arwyddocâd ychwanegol o ryw fath?
TASG 2
Beth, yn eich barn chi, yw ystyr y llinellau canlynol:
‘... gŵyr y garddwr
nad oes gorffwyso i fod
am mai ymaflyd cyson
â’r pridd sy’n troi y rhod’?
TASG 3
Ysgrifennwch frawddeg gryno ond cofiadwy am bob un o’r tymhorau, gan nodi beth mae pob tymor yn ei dro yn golygu i chi.
Dechreuwch bob un o’ch pedair brawddeg gydag enw’r tymor ac wedyn ‘i mi yw...’, e.e. ‘Gwanwyn i mi yw... ŵyn bach yn prancio’n iach ar gaeau Penrallt.’
- PDF (.pdf): Garddwyr-Oll-Tasg-3.pdf
TASG 4
Dychmygwch fod yr hen arddwr yn y gerdd wedi mynd mor hen fel na all drin ei ardd mwyach. Ysgrifennwch ymson sy’n darlunio’r hen ŵr un bore yn syllu allan o’i ystafell yn y tŷ yn edrych ar yr ardd sydd wedi dirywio oherwydd diffyg gofal (350 o eiriau).
CYMORTH HAWDD: Ceisiwch, o safbwynt yr hen ŵr, ddisgrifio yr ardd fel ag y mae nawr ac fel yr oedd slawer dydd, yn ogystal ag amlygu ei deimladau wrth iddo gymharu gardd y presennol a gardd y gorffennol.
Taflen holl dasgau Garddwyr Oll:
- PDF (.pdf): Tasgau-Garddwyr-Oll2.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Garddwyr-Oll.docx