Help - Casia Wiliam
Blantos Cymru, a welwch chi’r glaw?
Fy nagrau yw’r rhain, yn disgyn mewn braw.
Blantos Cymru, a glywch chi fy sgrech?
Mae’r salwch yn taenulledu; ymestyn i bob man fel brechsmotiau dros y corff ... .
Blantos Cymru, rwy’n peswch, yn tagu –
yr holl fwg a’r plastig, mae’n anodd anadlu.
Blantos Cymru, rwy’n sgrechian mewn panig –
rwy’n hiraethu am yr iâ a orchuddiaioedd yn gorchuddio yr Arctig.
Blantos Cymru, a deimlwch chi’r gwres?
Mae’n llosgi fy nghroen, dod yn nes ac yn nes.
Blantos Cymru, a fedrwch chi addo
bod yn wahanol – eich bod chi am drio?
Blantos Cymru, a wnewch chi fy ngwarchod?
Mae amser o hyd i ddadwneud y difrod.
Blantos Cymru, os gweithiwch ynghydgyda’i gilydd ,
fe rof i chi’r cwbl – fe rof i chi’r byd.
Rydym yn byw mewn cyfnod o ofid mawr am ddyfodol y blaned. Boed hynny oherwydd bygythiad llygredd neu’r ofn bod y byd yn cynhesu gan bwyll bach, mae nifer yn credu bod angen gweithredu’n awr i atal argyfwng go iawn yn y dyfodol. Ac mae’r llais sy’n siarad yn y gerdd hon gan Casia Wiliam yn amlwg yn un o’r rhai sy’n gofidio. Gymaint yn wir nes bod y llais hwnnw’n siarad yn uniongyrchol â ni, yn awyddus i ninnau sylwi ar yr arwyddion o’n cwmpas.
Cyfweliad gyda Casia Wiliam wrth iddi gael ei phenodi yn Fardd Plant Cymru:
Gweithgaredd 1
Atebwch y cwestiynau canlynol am y gerdd.
Gweithgaredd 2
Ydych chi'n gallu dod o hyd i'r parau sy'n odli?
TASG 1
a) Pwy, yn eich tyb chi, yw’r llais sy’n siarad yn uniongyrchol â phlant Cymru yn y gerdd?
b) Pa ymadroddion neu linellau yn y gerdd sy’n cefnogi eich ateb?
TASG 2
Pa dactegau mae llais y gerdd yn eu defnyddio er mwyn ceisio annog plant Cymru i weithredu?
TASG 3
Ysgrifennwch gerdd sy’n dilyn yr un patrwm â ‘Help’, ond ei hysgrifennu o safbwynt plant Cymru yn ateb llais y gerdd wreiddiol.
Er enghraifft, mae’n bosib y byddai cwpled rhif 6 yn edrych rhywbeth yn debyg i’r canlynol:
‘Ti, y blaned, yr ydym yn addo
bod yn wahanol, ein bod ni am drio.’
- PDF (.pdf): Help-Tasg-3.pdf
TASG 4
Ysgrifennwch stori fer (400 o eiriau) sydd â gofid am yr amgylchedd yn gefndir neu’n thema ynddi.
Taflen holl dasgau Help:
- PDF (.pdf): Tasgau-Help.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Help.docx