Ar Gyrion y Dre - Rhys Iorwerth
A dyna lle’r oedd hi, yn anfon rhyw decst
rhwng drysau McDonalds a maes parcio Next
pan sylwodd hi’n sydyn na chofiai hi ble
adawodd hi’i char. Dim ond cyrionymylon y dre
a welai o’i hamgylch, warysauadeiladau ar gyfer storio nwyddau mawr hir
a’u bilbordiaubyrddau hysbysebu unffurfpob un yr un fath â’i gilydd yn codi o’r tir.
Mewn rhes: TK Maxx, M&S, KFC,
A Morrisons sgwâr; Dunelm Mill, JJB;
siop fathrwms, lle soffas, cwtsied fach ar gyfer cadw anifeiliaid pizza’n ddi-feth di-feth = byth yn methu, bob tro ,
i gyd yn ei drysu, i gyd yr un peth
ag oedden nhw ym mhobman o’r mynydd i’r môr,
o Tescos i Starbucks, y cyfan mewn côr
yn chwerthin mewn cylch am na chofiai hi ble
roedd hi wedi parcio ar gyrion y dre.
Ac yna arswydoddcafodd hi ofn wrth ddirnaddirnad = deall yn iawn ei stâdcyflwr :
ni wyddai hi bellach ble’r oedd hi’n y wlad.
O Boots draw i Asda, ymuno’n un tsiaencadwyn
wnâi’r siopau o’i chwmpas; creu cadwyn o’i blaen
a chymaint ei dryswch, ei dychryn a’i strachhelynt, trafferth ,
dechreuodd hi grïo a chrynu’r beth fachyr hen beth fach, druan .
A oedd hi ym Mangor, Llandudno neu’n Rhyl?
Yng Nghaer neu yn Lerpwl? Manceinion? At dil
yn un o’r unedau... i holi’r aeth hi,
ond fedrai neb ddeall gwallgofrwyddy cyfwr o fod yn wallgof ei chri.
Gafaelodd yn sydyn drachefnunwaith eto yn ei ffôn.
Y batri ddiffygiodddiffygiodd = methodd . Hyd heddiw mae sôn
mai dyna lle mae hi rhwng Staples a Spar
hefo coffi o Costa yn chwilio am ei char.
(allan o Un Stribedyn Bach, Rhys Iorwerth, Gwasg Carreg Gwlach, 2014)