TASG 3
A fuoch chi mewn capel neu eglwys erioed?
- Os y buoch, sut le, felly, yw capel? Ceisiwch ystyried nid yn unig natur yr adeilad ei hun, ond hefyd naws a theimlad y lle, ynghyd â natur y bobl oedd yno yn ystod eich ymweliad/au chi.
- Os na fuoch chi y tu mewn i gapel neu eglwys erioed, mae’n siŵr eich bod wedi eu gweld nhw o’r tu allan. Dychmygwch, felly, sut le sydd y tu mewn iddyn nhw.
a) Ysgrifennwch ddisgrifiad byr o’r capel neu’r eglwys (150 o eiriau).
b) Wedi ysgrifennu’r disgrifiad, beth am geisio troi’r disgrifiad yn gerdd?
Ceisiwch ddewis darnau gorau’r disgrifiad, a’u haildrefnu a’u cywasgu i 12 llinell, gan sicrhau bod y dweud mor fachog a difyr ag sy’n bosib.