Google Mars - Hywel Griffiths
Pellter? Dim ond clic llygoden
ac mae planed yn dy law,
tynna’r tir coch yn nes atat
a chrwydra yma a thraw.
Clic, a llusga’r chwyddwydrgwydr arbennig ...
dros dirweddtirwedd = ffurf y tir sy’n llenwi’r llun,
dyffrynnoeddmwy nag un dyffryn dwfn a llydan
a’r llosgfynydd mwyaf un.
Clic. Dychmyga dy fod di
yn crwydro mewn crater cras,
neu’n llithro dros y pegynauy naill ben a’r llall o blaned
rhewllydyn llawn rhew, oer iawn yn teimlo’r iasteimlad o gryndod neu wefr .
Clic. Dilyna’r afonydd
sy’n sych ers oesoedd hir
a’u canghennau distaw’n estyn
eu brigau fel bysedd drwy’r tir.
Clic. Teimla’r stormydd llychlydyn llawn llwch
sy’n symud y tywod mân.
Clic. Mae Mawrth y dychymyg
yn nes nag yr oedd o’r bla’nblaen .
(allan o Llif Coch Awst, Hywel Griffiths, Cyhoeddiadau Barddas, 2017)