Brys - Ken Griffiths
RownRoeddwn am gael gorffen ysgol
Ac am gael gyrru car,
A phrofi’r cariad cyntaf
A phrynu peint o’r bar,
Hyn oedd yn fwrlwm yn fy ngwaed
A’r cloc o hyd yn llusgo’i draed.
Ac wedi blasu’r cyfan
Wrth fynedmyned = mynd ar fy hynt
Er ceisio eu harafu
Mae’r dyddiau’n mynd yn gynt,
Mi lusgaf i fy ngwely toccyn bo hir
Heb awydd mwy i weindio’r cloc.
(allan o Y Grefft o Dan-y-groes, gol. Idris Reynolds, Gwasg Carreg Gwalch, 2005)