Gwedd Gyflwyno

Dydd Iau Chwaraeon

Dydd Iau Chwaraeon - Mererid Hopwood

Llawn yw ’molabola= bol (fy mol)  bach o newynprinder bwyd difrifol ,

ond fwyta’ i ddim mo’r tost a’r menyn,

na’r cig moch na’r wy ’di ferwi –

mae’n ddydd Iau, mae’n ddiwrnod hoci.

 

Llawn yw’r gampfa o beryglon,

llawn yw’r cae o waed gelynion,

llawn yw’r gawod o gorynnod,

llawn wyf i o ofn a chryndodcryndod = ias; y weithred o grynu .

 

Llawn yw 'nghoesau gwyn o gleisiau,

llawn yw 'nghorff o anafiadau,

llawn yw 'nghlust o ddim ond cintachcwynion

Mrs Jones a’i sgrech: CALETACH!!!

 

Llawn yw 'mhen o esgusodion,

llawn wyf i o fân obeithion

y daw corwyntstorm ddinistriol bach o rywle

ac eira mawr i’m cadw adre.

 

Llawn yw 'nghalon i o wactergwacter = y cyflwr o fod yn wag ,

tybed, rywbryd, a ddaw amser

y bydd naid i fore Gwener

heb fod Iau yn dilyn Mercher?

 

(allan o Caneuon y Coridorau, Gwasg Carreg Gwalch, 2005)