Gwedd Gyflwyno

Annibendod

Annibendod - Hywel Griffiths

Pan fydd y llyfrau’n daclus

a’r Lego yn y bocs,

y lliwiau wedi’u cadwwedi eu rhoi heibio

’da Cyw, y clai a’r blocs,

bydd trefn ar fywyd fel o’r bla’nblaen

ar soffa fach y lolfaystafell fyw lân.

 

Ond gwag yw’r carped moethusdrud ,

mae bylchau ar y llawr,

tawelwch yw’r taclusrwydd

heb sŵn y chwarae mawr,

a dim ond sibrwd anadl ddofndofn = dwfn

o’r radio bach sy’n lleddfutawelu ’r ofn.

 

(allan o Llif Coch Awst, Hywel Griffiths, Cyhoeddiadau Barddas, 2017)