TASG 4
Dychmygwch eich bod yn aelod o dîm pêl droed Lerpwl y diwrnod hwnnw. Ar ddiwedd eich gyrfa rydych yn ysgrifennu eich hunangofiant, ac ynddo, mae pennod gyfan yn adrodd eich profiad chi yn Hillsborough.
Rhowch flas i ni o’r bennod honno (350 o eiriau) yn disgrifio sefyllfa’r prynhawn hwnnw o’ch safbwynt chi.
- Sut oeddech chi’n teimlo cyn y gêm fawr hon?
- Sut oeddech chi’n teimlo pan ddaeth yn amlwg fod rhywbeth wedi mynd o’i le oddi ar y cae?
- Sut newidiodd eich teimladau wrth i’r prynhawn fynd yn ei flaen?