Mae oedolion yn cwyno byth a hefyd fod plant yn treulio llawer gormod o amser ar eu teclynnau digidol! Ond, erbyn hyn, ble fydden ni heb ffôn neu dabled neu gliniadur? Wedi dweud hynny, mae’n siwr nad oes modd gwneud popeth ar-lein, chwaith. Beth am gynnal perthynas gariadus neu gyfeillgarwch, er enghraifft? A oes rhaid i bobl ddod wyneb yn wyneb â’i gilydd er mwyn profi perthynas go iawn? Dyma rai o’r cwestiynau sy’n cael eu holi’n dawel bach – ond nid eu hateb, chwaith – gan y gerdd hon, wrth i’r bardd ddychmygu ei fod yn fachgen ysgol ‘mewn perthynas’ gyda merch leol.