Sŵn - T. Llew Jones
Liw nosyn nhywyllwch y nos ni chlywirni all neb glywed , medden nhw maen nhw’n dweud ,
Ond hwtiany sŵn y mae tylluan yn ei wneud oer y gwdi-hŵtylluan :
Mae pawb a phopeth yn y cwm
Yn ddistaw bach yn cysgu’n drwm.
Ond celwydd noeth yw hynny i gyd,
Mae’r nos yn llawn o sŵn o hyd;
Mi glywais i, un noson oer,
Sŵn cŵn yn udosŵn tebyg i flaidd ar y lloer.
Mi glywais wedyn, ar fy nghairrwy’n addo ,
Sŵn llygod bach yn llofft y gwairystafell uwchben stabl ... –
Rhyw sŵn fel sŵn y gwynt trwy’r dail,
Rhyw gyffro bach a sibrwd bob yn ail.
A chlywais wedyn, ar ôl hyn,
Grawciansŵn cras fel crawc ... brogaod yn y llyn;
A chlywais unwaith, ar fy ngwirrwy’n addo ,
Gyfarth y llwynog o’r Graig Hir.
Pan ddring y lloerpan fydd y lleuad yn dringo a’r sêr i’r nen,
A gwaith y dydd i gyd ar ben,
Pan gilia pawbpan fydd pawb yn cilio i’r tŷ o’r closbuarth fferm ,
Cawn gyfle i wrando ar leisiau’r nos.
(allan o Trysorfa T. Llew [T. Llew Jones], gol. Tudur Dylan Jones, Gomer, 2004)