Mae pobl wedi ymwneud â byd natur ers y cychwyn cyntaf un. Yn wir, mae gan rai berthynas agos iawn â’r ddaear, gan ofalu’n gydwybodol am eu darn bach nhw o dir. Mae ffermwyr yn esiampl amlwg, ond felly hefyd garddwyr, wrth gwrs. Maen nhw’n gwybod na ddaw cnydau a blodau yn eu llawnder yn y gwanwyn a’r haf heb waith paratoi fisoedd ymlaen llaw, gwaith caled iawn, gwaith sy’n mynd yn galetach wrth iddyn nhw fynd yn hŷn. Un o’r garddwyr hyn yw testun y gerdd hon gan Karen Owen, garddwr sy’n gwybod beth yw ei ddyletswyddau ef yn nhrefn y tymhorau.