Rydym yn byw mewn cyfnod o ofid mawr am ddyfodol y blaned. Boed hynny oherwydd bygythiad llygredd neu’r ofn bod y byd yn cynhesu gan bwyll bach, mae nifer yn credu bod angen gweithredu’n awr i atal argyfwng go iawn yn y dyfodol. Ac mae’r llais sy’n siarad yn y gerdd hon gan Casia Wiliam yn amlwg yn un o’r rhai sy’n gofidio. Gymaint yn wir nes bod y llais hwnnw’n siarad yn uniongyrchol â ni, yn awyddus i ninnau sylwi ar yr arwyddion o’n cwmpas.