A fuoch chi yn yr ysbyty erioed yn ymweld â rhywun? Neu a fuoch chi eich hun yn un o’r cleifion yno? Beth bynnag eich profiad, mae’n deg dweud nad oes neb yn dymuno bod yn yr ysbyty. Nid am nad oes yno groeso a gofal, ond oherwydd nad oes neb yn dymuno bod yn sâl. Mae hyn yn arbennig o wir am blant, mae’n siŵr. Ac yn y gerdd hon, mae Tudur Dylan Jones yn smalio bod yn blentyn sy’n glaf yn yr ysbyty, ac yn gwneud ei orau glas i edrych ar yr ochr orau o bethau, er mor anodd yw hynny.