Gwedd Gyflwyno

Gweld Hen Ffrind

Gweld Hen Ffrind - Gwion Hallam

(a gafodd ei ladd ar foto-beic tra’n fachgen ysgol)

 

Mae’r byd ’di cadw i droi ers iddo fynd

a’r clociau wedi cadw’u hamser llymsiarp

ers imi glywed sôn am daith fy ffrind

ar awr pan nad oedd amser i ni’n ddim

ond gair; ac yma rwy’n cyfadde’ nawr

na fydda i’n cofio amdano erbyn hyn

wrth drio gwasgu dyddiau i mewn i awr

a methu gwneud y mwya o f’amser prin.

Ond ddoe a minnau’n sownd yn ras y lôn

fe basiodd beic a’i sgrech yn rhyddid gwych,

a dyma’i wên fel golau’n llenwi 'nghofy nghof

nes i mi droi ac estyn at y drych –

a gweld mod innau’n teithio gyda’r byd

tra bod ei wyneb yntau'nef yn iau o hyd.

 

(allan o Caneuon y Coridorau, Gwasg Carreg Gwalch, 2005)