Cynghanedd
Crefft unigryw y beirdd Cymraeg, crefft sy’n cyfuno odli mewnol ac ailadrodd cytseiniaid yn eu trefn.
Mae pedwar math o gynghanedd:
(i) Cynghanedd groes, e.e. ‘Mi rwyfais ym maw’r afon’
(ii) Cynghanedd draws, e.e. ‘Mi rwyfais lle mae’r afon’
(iii) Cynghanedd sain, e.e. ‘Heriais, rhwyfais yr afon’
(iv) Cynghanedd lusg e.e. ‘Mi heriaf byllau’r afon’
Cynghanedd Groes
Egwyddor cyffredinol (i) yw bod y cytseiniaid yn rhan gyntaf y llinell yn cael eu hailadrodd yn yr un drefn yn yr ail ran:
e.e.
Mi rwyfais ym maw’r afon = m r f / m r f
Cynghanedd Draws
Egwyddor cyffredinol (ii) yw bod y cytseiniaid yn rhan gyntaf y llinell yn cael eu hailadrodd yn yr un drefn yn yr ail ran, ond bod hawl anwybyddu unrhyw gytseiniaid ar ddechrau’r ail ran er mwyn cyrraedd yr ailadrodd hwnnw:
e.e.
Mi rwyfais lle mae’r afon = m r f / (ll) m r f
Cynghanedd Sain
Egwyddor cyffredinol (iii) yw bod tair rhan iddi, a bod diwedd rhan 1 yn odli â diwedd rhan 2, a bod y cytseiniaid yn y gair ar ddiwedd rhan 2 yn cael eu hailadrodd yn rhan 3:
e.e.
Heriais rhwyfais yr afon = 1 odl 2 odl + r f 3 r f
Cynghanedd Lusg
Egwyddor cyffredinol (iv) yw bod y gair ar ddiwedd rhan gynta’r llinell yn odli gyda sillaf olaf ond un y gair ar ddiwedd yr ail ran:
e.e.
Mi heriaf byllau’r afon