A oeddech yn edrych ymlaen at symud o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd? Neu a oedd rhywrai wedi codi ofn arnoch gyda chyfres o rybuddion am beth i wneud a pheidio â gwneud wedi cyrraedd yno? Wedi’r cyfan, mae pwysau ar bawb i gydymffurfio yn yr ysgol uwchradd – pwysau gan athrawon i sicrhau ein bod chi’n dilyn y drefn, ond hefyd pwysau gan gyd-ddisgyblion sy’n awyddus i chi ddilyn cyfres o ‘reolau’ gwahanol, er mwyn i chi fod yn un o’r gang, beth bynnag yw hwnnw. Mae’r rheolau hyn – fel ffasiwn – yn newid o gyfnod i gyfnod, ond mae rhai pethau yn aros yr un peth yn hanes pob disgybl ysgol ymhob oes.