Aros a Mynd - Ceiriog
Aros mae’r mynyddau mawr,
Rhuogwneud sŵn mawr drostynt mae y gwynt;
Clywir eto gyda’r wawr
Gân bugeiliaid megisfel cynto’r blaen .
Eto tyf y llygad dyddblodyn bach
OgylchO gylch traed y graig a’r bryn,
Ond bugeiliaid newydd sydd
Ar yr hen fynyddoedd hyn.
Ar arferion Cymru gynt
Newid ddaeth o rod i rodo un troad y flwyddyn i’r llall ;
Mae cenhedlaethpawb a anwyd tua’r un cyfnod wedi mynd
A chenhedlaeth wedi dod.
Wedi oes dymhestlogtymhestlog = stormus hir
Alun Mabon mwy nid ywmae Alun Mabon wedi marw ,
Ond mae’r heniaith yn y tir
A’r alawontonau, caneuon hen yn fyw.
(Allan o Cerddi Clwyd, Gomer, 2004)
Perfformiad Emyr Wyn Jones o'r gerdd ar raglen y Noson Lawen:
Does dim byd yn parhau am byth. Mae’r byd o’n cwmpas – a’r bobl o’n cwmpas – yn newid o hyd. Ac mae hwn yn destun siom i rai, yn enwedig i’r sawl sydd am i bethau aros yr union fel ag y maen nhw o hyd. Ond yn y gerdd hon, mae Ceiriog yn sylwi fod rhai pethau’n aros gyda ni. Yng Nghymru, y mynyddoedd yw’r rheini. Hyd yn oed os yw’r sawl sy’n byw ar y mynyddoedd hynny’n newid o genhedlaeth i genhedlaeth, mae’r pethau sy’n bwysig i’r Cymry hynny’n parhau – yn union fel y mae’r mynddoedd yn parhau.
John Ceiriog Hughes (Ceiriog) 1832 - 1887
- Ganed Ceiriog yn y flwyddyn 1832 yn Llanarmon, Dyffryn Ceiriog.
-
Roedd yn cael ei adnabod yn ôl ei enw barddol, Ceiriog, ac yn un o feirdd poblogaidd Cymru yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
-
Bu’n cadw siop groser ym Manceinion ac yn gweithio ar y rheilffyrdd.
-
Bardd telynegol oedd Ceiriog. Roedd yn ysgrifennu cerddi syml ac yn canu ar yr hen alawon Cymreig.
Plac er cof am Ceiriog yn Eglwys Sant Garmon, Llanarmon, Dyffryn Ceiriog, Wrecsam.
Gweithgaredd 1
Atebwch y cwestiwn.
Gweithgaredd 2
Uwcholeuwch yr holl eiriau yn y gerdd sy’n ymwneud â byd natur, y tir a’r tywydd.
Gweithgaredd 3
Pa bethau y mae'r bardd yn credu eu bod nhw'n aros, a pha bethau y mae'r bardd yn credu eu bod nhw'n newid neu'n ein gadael ni?
Gweithgaredd 4
Allwch chi gysylltu'r odlau?
TASG 1
a) Mae rhai’n dweud bod y Cymry’n rhai da iawn am hiraethu am y gorffennol. A ydych chi’n cytuno â hynny?
b) Mae'n wir bod y gerdd ‘Aros a Mynd’ yn hen gerdd erbyn hyn, ond ai cerdd ddigalon a hiraethus neu gerdd gadarnhaol yw hi?
Ceisiwch ddod o hyd i eiriau ac ymadroddion yn y gerdd sy’n cefnogi eich safbwynt.
TASG 2
Ceiriog oedd bardd Cymraeg mwyaf poblogaidd ei oes. Ysgrifennodd nifer o gerddi a ddaeth yn adnabyddus iawn yn ei ddydd ac wedi hynny.
a) Chwiliwch ar y we am deitlau pump o’r cerddi hynny.
b) Chwiliwch hefyd am bum ffaith ddiddorol am Ceiriog ei hun.
- PDF (.pdf): Aros-a-Mynd-Tasg-2.pdf
TASG 3
a) Dewiswch un olygfa rydych chi’n gyfarwydd iawn â hi (e.e. yr olygfa allan o’ch ystafell wely; sgwâr y pentref; stryd yn y dref neu ble bynnag), a cheisiwch ddyfalu sut olygfa oedd hi ganrif yn ôl.
b) Wedi gwneud hynny, sylwch ar y pethau hynny sydd, o bosib, wedi newid neu yn newid yn yr olygfa hon dros y blynyddoedd neu o dro i dro.
c) Canolbwyntiwch wedyn ar y pethau yn yr olygfa sydd wastad yn aros yr un peth.
Gwnewch restrau neu tynnwch luniau a’u labelu. Allwch chi ddod o hyd i hen lun go iawn o’r olygfa?
TASG 4
Dychmygwch eich bod yn blentyn o Lundain, ac yn dod i aros gyda pherthnasau yng nghefn gwlad Cymru am y tro cyntaf.
Rydych chi’n aros mewn ffermdy am wythnos, ac yn ystod eich ymweliad rydych yn dod i weld byd a ffordd o fyw sy’n wahanol iawn i’ch bywyd chi yn y ddinas.
Dychmygwch eich bod yn danfon neges fer at eich ffrindiau (er enghraifft, neges destun neu snapchat) bob tro rydych chi’n cael profiad newydd, difyr, anodd neu wahanol ar y fferm.
Ysgrifennwch gyfres o 20 o’r negeseuon byrion hynny er mwyn i’r darllenydd gael blas o ddigwyddiadau a theimladau’r wythnos.
- PDF (.pdf): Aros-a-Mynd-Tasg-4.pdf
Taflenni holl dasgau Aros a Mynd:
- PDF (.pdf): Tasgau-Aros-a-Mynd2.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Aros-a-Mynd.docx
- PDF (.pdf): Taflenni-Gwaith-Tasgau-Aros-a-Mynd.pdf