Google Mars

Google Mars - Hywel Griffiths

Pellter? Dim ond clic llygoden

ac mae planed yn dy law,

tynna’r tir coch yn nes atat

a chrwydra yma a thraw.

 

Clic, a llusga’r chwyddwydrgwydr arbennig ...

dros dirweddtirwedd = ffurf y tir sy’n llenwi’r llun,

dyffrynnoeddmwy nag un dyffryn  dwfn a llydan

a’r llosgfynydd mwyaf un.

 

Clic. Dychmyga dy fod di

yn crwydro mewn crater cras,

neu’n llithro dros y pegynauy naill ben a’r llall o blaned

rhewllydyn llawn rhew, oer iawn  yn teimlo’r iasteimlad o gryndod neu wefr .

 

Clic. Dilyna’r afonydd

sy’n sych ers oesoedd hir

a’u canghennau distaw’n estyn

eu brigau fel bysedd drwy’r tir.

 

Clic. Teimla’r stormydd llychlydyn llawn llwch

sy’n symud y tywod mân.

Clic. Mae Mawrth y dychymyg

yn nes nag yr oedd o’r bla’nblaen .

 

(allan o Llif Coch Awst, Hywel Griffiths, Cyhoeddiadau Barddas, 2017)

Google Mars

Gwrnadewch ar Hywel Griffiths yn darllen ei gerdd, 'Google Mars':

Mae’r We yn gwybod y cyfan, mae’n ymddangos. A’r cyfan sydd ei angen i gael mynediad i’w holl wybodaeth yw clic llygoden. Cawn fynd i bobman ar wyneb daear wedyn heb orfod symud o’r unfan. Mwy na hynny, drwy deipio a chlicio ar ‘Google Mars’, cawn fynd i’r gofod pell a rhyfeddu at olygfeydd y blaned Mawrth, y blaned goch sydd wedi ysbrydoli cymaint o straeon dychmygus am aliwns yn y gorffennol. Yn y gerdd hon, mae Hywel Griffiths yn ein hannog ni i glicio ac i grwydro hyd nes ein bod ni’n gweld holl ffurfiau daearyddol y blaned honno, ffurfiau tebyg iawn i rai ein daear ni.

Google Mars - eglurhad y bardd

Beth sydd gan y bardd, Hywel Grififths, i'w ddweud am ei gerdd?

Hywel Griffiths

Dewch i adnabod y bardd:

Gweithgaredd 1

Atebwch y cwestiynau canlynol am y gerdd.

Gweithgaredd 2

Mae sawl enghraifft o gyflythrennu yn y gerdd. Rhowch yr enghreifftiau canlynol yn y drefn y maen nhw’n ymddangos yn y gerdd.

Gweithgaredd 3

Uwcholeuwch y geiriau hynny ymhob pennill sy’n dangos bod y bardd yn annog y darllenydd i wneud rhywbeth.