Grisiau - Mari George
(Mehefin 24ain, 2016, yn dilyn pleidlais Brexit... )
Mae e’n codi’n y nos
i eistedd ar y gris isa
a galw amdana’ i,
ei ofnau’n newid siâp bob tro
fel y lleuad.
A dw i’n cario atebion
yn ôl i’r llofft,
yn addo eto,
y daw’r bore.
Ond heno,
dw i’n hŷn dan ei gwestiynau,
felly steddwn gyda’n gilydd
ar ebychiad... o ris
ac yntau’n fy ngwylio’n
brathu
ewiny darn caled ar flaen bys o leuad.
(allan o Pigion y Talwrn, Cyhoeddiadau Barddas, 2016)