Beth sy’n eich cadw chi ar ddihun yn y nos? Yn y gerdd hon gan Mari George, mae’r fam a’r plentyn bach yn methu â chysgu, ond gofidiau gwahanol sydd gan y ddau. Er bod y fam wedi codi o’r gwely i gysuro ei mab yn nhywyllwch y nos, ac wedi ei sicrhau bod popeth yn iawn, mae’n amlwg bod rhywbeth arall yn ei phoeni hi, rhywbeth na all dyfodiad y bore mo’i drwsio mor hawdd.