A oes gennych declyn? Os oes, a oes gennych apiau (apps) ar y teclyn hwnnw? Wel, oes, siwr. Mae’n anodd dychmygu byd heb apiau erbyn hyn. Mwy na hynny, mae’n ymddangos fel petai ap ar gyfer popeth dan haul. Yn y gerdd hon, mae Anni Llŷn yn rhestru rhai o’r apiau sydd ganddi eisoes, er bod ei rhestr yn cynnwys nifer o apiau sydd heb hyd yn oed eu creu eto! Ond er mor falch yw hi o’r apiau hyn, mae un peth yn bwysicach o lawer na hynny, fel y clywn ni yn y pennill olaf.