Ward y Plant - Tudur Dylan Jones
Er bod y nyrsus yma’n ffeindcaredig
yn gwenu’n glênclên = dymunol bob un,
rwy’n edrych ’mlaen at gael mynd ’nôl
i 'nghartref i fy hun.
Er bod y plant sy’n rhannu’r boen
i gyd yn ffrindiau da,
dwi eisiau bod ymhell o’r ward
yn chwarae pan ddaw’r ha’.
Mae heno’n gur, mae’r nos yn hir,
ac er bod fory’n bell,
mae angen weithiau bod yn sâl
er mwyn cael dod yn well.
(allan o Adenydd, Tudur Dylan Jones, Cyhoeddiadau Barddas, 2001)