Ym mis Gorffennaf 2016, cyrhaeddodd tîm pêl droed Cymru rownd gyn-derfynol Pencamwpriaethau Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes. Buon nhw’n chwarae yn erbyn gwledydd mawr fel Lloegr a Gwlad Belg, cyn colli i Bortiwgal (enillwyr y gystadleuaeth). Yn y gerdd hon, mae Emyr Davies yn cymharu tîm Cymru i blentyn ysgol sy’n mynd i chwarae gêm bêl droed yn erbyn y bechgyn mawr am y tro cyntaf. Y plentyn bach ei hun sy’n llefaru yn y gerdd.