Gwisg (Ewros 2016) - Emyr Davies
Mi dynna’ i’r crys amdanaf, yna mynd
Draw am iard bois mwyaf
Ein hysgol, a phan wisgaf
Y lifraigwisg swyddogol hwn, ni lwfrhafnid wyf yn troi’n llwfr .
Ym mis Gorffennaf 2016, cyrhaeddodd tîm pêl droed Cymru rownd gyn-derfynol Pencamwpriaethau Ewrop am y tro cyntaf yn eu hanes. Buon nhw’n chwarae yn erbyn gwledydd mawr fel Lloegr a Gwlad Belg, cyn colli i Bortiwgal (enillwyr y gystadleuaeth). Yn y gerdd hon, mae Emyr Davies yn cymharu tîm Cymru i blentyn ysgol sy’n mynd i chwarae gêm bêl droed yn erbyn y bechgyn mawr am y tro cyntaf. Y plentyn bach ei hun sy’n llefaru yn y gerdd.
Uchafbwyntiau Cymru ym Mhencampwriaeth Ewro 2016 yn Ffrainc:
Gweithgaredd 1
Aildrefnwch y brawddegau canlynol i adrodd stori’r gerdd.
Gweithgaredd 2
Mae’r bardd yn cymharu tîm pêl droed Cymru 2016 i blentyn ysgol yn mynd draw i iard ‘bois mwyaf ein hysgol’ i chwarae.
Atebwch y cwestiynau canlynol.
TASG 1
Mewn grwpiau gwnewch restr o bump cymhariaeth neu drosiad posib arall a fyddai’n addas i ddisgrifio tîm pêl droed Cymru yn mynd i’r Ewros yn 2016.
Ceisiwch gytuno ar ba un o’r pump sydd fwyaf addas.
TASG 2
a) Dyluniwch fathodyn ac arwyddair newydd i dîm pêl-droed neu rygbi Cymru.
b) Ysgrifennwch baragraff yn esbonio’r syniadau sydd y tu ôl i’r bathodyn a’r arwyddair newydd.
- PDF (.pdf): Gwisg-Tasg-2.pdf
TASG 3
Dychmygwch mai chi yw hyfforddwr tîm pêl-droed neu rygbi Cymru.
Rydych yn sefyll yn yr ystafell newid cyn y gêm fawr yn erbyn Lloegr ac yn awyddus i ysbrydoli eich chwaraewyr cyn iddyn nhw fynd allan ar y cae.
Lluniwch a pherfformiwch araith angerddol (250-300 o eiriau) sy’n atgoffa’r chwaraewyr o bwysigrwydd gwladgarol y gêm.
TASG 4
Ysgrifennwch adroddiad papur newydd (300-400 o eiriau) ar gêm rhwng Cymru a Lloegr, gan geisio defnyddio cymaint o gymariaethau a throsiadau sy’n codi o fyd ymladd a rhyfela.
- PDF (.pdf): Gwisg-Tasg-4.pdf
Taflenni holl dasgau Gwisg:
- PDF (.pdf): Tasgau-Gwisg.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Gwisg.docx
- PDF (.pdf): Taflenni-Gwaith-Tasgau-Gwisg.pdf