Myn Duw, Mi a Wn y Daw!

Myn Duw, Mi a Wn y Daw! - Dafydd Iwan

Mae gwaed y rhai fu’n brwydro

Ac a lifodd ar y gwellt

Ers talwmers llawer dydd  wedi’i olchi gan y glaw.

Ni chlywaf gân y daran,

Ni welaf gân y mellt,

Nid oes ond crigwaedd, llef anobaith ar bob llawar bob ochr .

Ymhle y mae Owain yn awr?

Ymhle y mae Owain yn awr?

 

Mae Owain gyda’i filwyr

Wedi cilio draw o’n gwlad

Ac nid oes mwy ond atgo’atgof ... ar ei ôl;

Nid oes ond oer gelaneddcelanedd = cyrff meirw

Lle gynt bu maes y gad

Ac nid yw rhyddid mwy ond breuddwyd ffôl.

 

Owain ni ddaw yn ôl,

Owain ni ddaw yn ôl.

Daw llanw wedi’r traillif y môr yn mynd i ffwrdd o’r lan ,

Daw enfys wedi’r glaw

Ac wedi’r nos mi wn y wawr a ddaw.

 

Ond mi wn y daw Owain yn ôl,

O mi wn y daw Owain yn ôl.

Fel llanw wedi’r trai,

Fel enfys wedi’r glaw,

Fel gwawrio wedi’r nos

Myn Duw, mi a wn y daw.

 

 

Nid yn oferdi-fudd y bu’r brwydro,

Nid yn ofer tywalltarllwys gwaed,

Mae eto fuddugoliaeth yn y gwynt.

Mi glywaf leisiau’r milwyr,

Mi glywaf sŵn eu traed

Yn cerdded o Eryri ar eu hynt.

 

Cofrestrwnymunwn â’r fyddin  yn ei rengoeddrhengoedd = rhesi o filwyr

Â’r iaith Gymraeg yn arf,

Dioddefwn warthgwarth = teimlad poenus o euogrwydd  caethiwedy cyflwr o fod yn gaeth

Awr yn hwyawr yn hirach .

Gorseddwn iaith‘rhown iaith ar orsedd’  ein tadau,

Dilëwncael gwared ar  olion brad,

Dangoswn nad taeogion mohonom mwy.‘nad taeogion ydym ni ragor’ ...

 

Rhowch heibio bob anobaith

A’r holl amheuon lu,

Mae Owain eto’n barod am y dydd.

O’i locheslloches = man sy’n cynnig cysgod a diogelwch yn Eryri

Fe ddaw â’i ffyddlon lullu = nifer mawr o bobl; criw

I’n harwain gyda’r wawr

I Gymru rydd.

 

Myn...  Duw, mi a wn y daw.

Myn Duw, mi a wn y daw.

O blith holl arwyr hanes Cymru, daeth neb yn nes at uno’r genedl a chreu gwlad annibynnol nag Owain Glyndŵr. Ef oedd y Cymro olaf i fod yn dywysog Cymru, a doedd e na’i gefnogwyr ddim yn barod i fod yn gaeth i frenin Lloegr, i fod yn ddinasyddion eilradd yn eu gwlad nhw eu hunain. A bron i’w wrthryfel ar ddechrau’r bymthegfed ganrif lwyddo. Pwy a ŵyr pa fath o wlad fyddai Cymru erbyn hyn petai wedi llwyddo? Ond mae un dirgelwch mawr am Owain Glyndŵr: does dim un cofnod swyddogol o’i farwolaeth. A bu hyn yn ysbrydoliaeth i genedlaethau o wladgarwyr: y gred fod Owain yn cuddio yn rhywle o hyd ac yn aros am yr awr i ddod nôl i arwain Cymru i ryddid, fel Mab Darogan y chwedlau. A dyma’r gred sy’n ysbrydoliaeth i gân enwog Dafydd Iwan, cân sy’n ein hannog ni i beidio anobeithio, ond i ymladd yn ddewr yn enw Owain Glyndŵr a rhyddid Cymru.

Dafydd Iwan yn canu pennill cyntaf Myn Duw, Mi a Wn y Daw!

Dafydd Iwan

g. 1943, Brynaman

 

dafydd iwan 4d17f2a7 e885 4df0 b288 42a4bdcbd97 resize 750

 

Dafydd Iwan yw un o gerddorion a pherfformwyr enwocaf Cymru. Mae wedi bod yn canu a pherfformio ers dros hanner can mlynedd ac wedi cyfansoddi dros 250 o ganeuon poblogaidd, fel Yma o Hyd, Pam Fod Eira’n Wyn, Peintio’r Byd yn Wyrdd a Cherddwn Ymlaen. Roedd yn ffigwr amlwg iawn yn y frwydr iaith yn y 1960au a’r 1970au ac un o’r rhai a sefydlodd Gwmni Recordiau Sain yn 1969.

 

Gweithgaredd 1

Atebwch y cwestiynau canlynol.

Gweithgaredd 3

Darllenwch y ddau bennill olaf eto. Ydy'r brawddegau canlynol yn gywir neu'n anghywir?

Gweithgaredd 2

Uwcholeuwch y tair llinell yn y gerdd sy’n cynnwys cyffelybiaethau/cymhariaethau.