Hen Wlad fy Nhadau - Evan James
Mae hen wlad fy nhadaufy nghyndadau yn annwyl i mi,
Gwlad beirdd a chantorioncantorion = pobl sy’n canu , enwogionpobl enwog o fri;
Ei gwroldewr ryfelwyr, gwladgarwyrpobl sy’n caru eu gwlad trayn arbennig o madda ,
Tros ryddid collasant eu gwaed....
Cytgan: Gwlad, gwlad, pleidiolo blaid wyf i’m gwlad,
Tracyhyd môr yn fur i’r bur hoff ... baupau = gwlad ,
O! bydded i’r hen iaith barhau....
Hen Gymru fynyddigmynyddig = yn llawn mynyddoedd , paradwyslle perffaith y bardd,
Pob dyffryncwm llydan , pob clogwynwal serth o graig , i’m golwg sydd hardd;
Trwy deimlad gwladgarol mor swynolhudolus yw si
Ei nentyddmwy nag un nant , afonydd i ni.
Os treisioddgormesodd y gelyn fy ngwlad dan ei droed,
Mae heniaith y Cymry mor fyw ag erioed;
Ni luddiwydlluddiwyd = rhwystrwyd yr awenysbrydoliaeth y beirdd gan erchyllofnadwy law bradtwyll ,
Na thelyn berseiniolperseiniol = pêr ei sain fy ngwlad.
Cefnogwyr a thîm Cymru yn canu'r anthem cyn y gêm bêl-droed yn erbyn Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd ym mis Hydref 2017:
‘Hen Wlad fy Nhadau’ yw anthem genedlaethol Cymru. Ysgrifennwyd y geiriau gan y gwehydd (weaver) Evan James o Bontypridd, ac fe gyfansoddwyd y dôn gan ei fab, James James, ym 1856. Yn y ddau bennill cyntaf, mae’r bardd yn rhestru’r math o bobl a’r math o bethau yng Nghymru sy’n annwyl ac yn bwysig iddo. Yn y pennill olaf, mae’n cyfeirio’n benodol at y ffaith fod y Cymry a’r Gymraeg wedi bod dan fygythiad dros y canrifoedd. Mae’r gytgan yn mynegi gwladgarwch y bardd, a’i obaith y bydd yr ‘hen iaith’ yn parhau am byth.
Evan James (1809-1878) a James James (1833-1902)
Ysgrifenwyd geiriau anthem genedlaethol Cymru, Mae Hen Wlad Fy Nhadau, gan y bardd Evan James o Bontypridd yn 1856. Ganed Evan, neu Ieuan ap Iago fel yr oedd yn cael ei adnabod, yng Nghaerffili yn 1809, ond symudodd i Bontypridd yn 1847. Gwehydd a gwerthwr gwlân ydoedd Evan, ac roedd yn gweithio yn ei felin ar lan Afon Rhondda. Roedd ganddo saith o blant a bu hefyd yn berchen tafarn yn Argoed, Sir Fynwy.
Cyfansoddwyd y dôn gan fab Evan, sef James James, neu Iago ap Ieuan. Telynor a cherddor oedd James ac roedd yn ennill ei fywoliaeth drwy ganu’r delyn yn nhafarnau’r ardal. Symudodd James i Aberpennar ac yna i Aberdâr.
Evan James James James
Gweithgaredd 1
Mae’r bardd yn defnyddio ansoddeiriau sy’n canmol i bwysleisio’i edmygedd o bobl a phethau Cymru. Uwcholeuwch yr ansoddeiriau canmoliaethus hyn.
Gweithgaredd 2
Ym mhennill un, mae’r bardd yn rhestru gwahanol fathau o bobl y mae’n eu hedmygu yng Nghymru. Chwiliwch amdanyn nhw yn y chwilair.
Gweithgaredd 3
Ym mhennill dau, pa ymadrodd sy’n dangos bod y bardd yn meddwl bod Cymru’n well nag unrhyw fan arall ar y ddaear?
Gweithgaredd 4
Aildrefnwch y geiriau canlynol er mwyn ffurfio llinell o’r gytgan.
Gweithgaredd 5
Cysylltwch y gair gyda'r disgrifiad cywir.
TASG 1
a) Meddyliwch am un achlysur arbennig lle y bu i chi ganu’r anthem neu glywed yr anthem yn cael ei chanu.
b) Mewn parau, disgrifiwch yr achlysur hwnnw i’ch partner.
c) Yna, ewch ati fel dosbarth i recordio disgrifiadau pawb er mwyn creu fideo byr, yn cynnwys clipiau sain a lluniau.
TASG 2
a) Pa ddwy linell o’r gerdd y byddech chi’n eu dewis i bawb yng Nghymru orfod eu dysgu nhw ar eu cof, a pham?
b) Pa ddwy linell o’r gerdd y byddech chi’n eu torri allan o’r gerdd, a pham?
TASG 3
Ymchwiliwch i hanes Evan a James James, ac i’r modd y daeth ‘Hen Wlad fy Nhadau’ yn anthem genedlaethol Cymru.
Gwnewch restr o ddeg ffaith bwysig am yr anthem a’u cyfansoddwyr.
- PDF (.pdf): Hen-Wlad-Fy-Nhadau-Tasg-3.pdf
TASG 4
Ysgrifennwch fersiwn gyfoes o’r anthem genedlaethol, gan geisio dilyn patrwm curiadau ac odlau y fersiwn wreiddiol. Mae croeso i chi lenwi’r bylchau yn y ffrâm ganlynol:
Mae hen wlad fy _________________ yn ____________ i mi,
Gwlad _______ a _________________, _____________ o fri,
Ei ________ ______________, ________________ tra _____,
__________________________________________________.
Gwlad, gwlad, pleidiol wyf i’m gwlad,
______________________________,
O! bydded i’r ______________ barhau.
- PDF (.pdf): Hen-Wlad-Fy-Nhadau-Tasg-4.pdf
TASG 5
Dychmygwch fod Llywodraeth Cymru am gynnal refferendwm i weld a yw pobl Cymru am gael gwared ar yr anthem genedlaethol neu ei chadw.
Ysgrifennwch blog (250-300 gair) yn esbonio pa ffordd y byddwch chi’n pleidleisio, ac yn esbonio pam eich bod chi o blaid neu yn erbyn yr anthem bresennol.
Ceisiwch gyfeirio at esiamplau penodol o beth sy’n effeithiol neu’n aneffeithiol yn yr anthem, o ran yr hyn mae’n ei ddweud a’r modd y mae’n cael ei ddweud.
- PDF (.pdf): Hen-Wlad-Fy-Nhadau-Tasg-5.pdf
Taflenni holl dasgau Hen Wlad Fy Nhadau:
- PDF (.pdf): Tasgau-Hen-Wlad-Fy-Nhadau.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Hen-Wlad-Fy-Nhadau.docx
- PDF (.pdf): Taflenni-Gwaith-Tasgau-Hen-Wlad-Fy-Nhadau.pdf