Does dim byd yn parhau am byth. Mae’r byd o’n cwmpas – a’r bobl o’n cwmpas – yn newid o hyd. Ac mae hwn yn destun siom i rai, yn enwedig i’r sawl sydd am i bethau aros yr union fel ag y maen nhw o hyd. Ond yn y gerdd hon, mae Ceiriog yn sylwi fod rhai pethau’n aros gyda ni. Yng Nghymru, y mynyddoedd yw’r rheini. Hyd yn oed os yw’r sawl sy’n byw ar y mynyddoedd hynny’n newid o genhedlaeth i genhedlaeth, mae’r pethau sy’n bwysig i’r Cymry hynny’n parhau – yn union fel y mae’r mynddoedd yn parhau.