Mae gan bawb ei broblem. Ond a oes peryg ein bod ni weithiau’n gwneud môr a mynydd o’r broblem honno? Ydyn ni’n gadael i’r broblem honno fwrw cysgod dros bob rhan arall o’n bywydau ni? Canlyniad hyn yw bod un peth bach yn gallu ymddangos yn bwysicach na’r holl bethau da am ein bywydau. Yn y gerdd hon, mae Siân Owen yn cyfaddef fod rhywbeth yn ei phoeni hi, ac er nad yw hi’n gallu rhoi siâp pendant i’r gofid, mae yno o hyd. Serch hynny, nid yw hi am i’r un peth hwnnw newid ei hagwedd tuag at holl hapusrwydd gweddill ei bywyd.
Mae’n deg dweud bod Siân Owen yn gwybod ei bod hi’n dioddef o ganser pan gyfansoddodd hi’r gerdd hon. Ymhen deunaw mis, bu farw yn 48 oed.