O blith holl arwyr hanes Cymru, daeth neb yn nes at uno’r genedl a chreu gwlad annibynnol nag Owain Glyndŵr. Ef oedd y Cymro olaf i fod yn dywysog Cymru, a doedd e na’i gefnogwyr ddim yn barod i fod yn gaeth i frenin Lloegr, i fod yn ddinasyddion eilradd yn eu gwlad nhw eu hunain. A bron i’w wrthryfel ar ddechrau’r bymthegfed ganrif lwyddo. Pwy a ŵyr pa fath o wlad fyddai Cymru erbyn hyn petai wedi llwyddo? Ond mae un dirgelwch mawr am Owain Glyndŵr: does dim un cofnod swyddogol o’i farwolaeth. A bu hyn yn ysbrydoliaeth i genedlaethau o wladgarwyr: y gred fod Owain yn cuddio yn rhywle o hyd ac yn aros am yr awr i ddod nôl i arwain Cymru i ryddid, fel Mab Darogan y chwedlau. A dyma’r gred sy’n ysbrydoliaeth i gân enwog Dafydd Iwan, cân sy’n ein hannog ni i beidio anobeithio, ond i ymladd yn ddewr yn enw Owain Glyndŵr a rhyddid Cymru.