Mae cŵn defaid yng Nghymru yn anifeiliaid gwaith ac yn anifeiliaid anwes, ac yn cael eu hystyried yn ffrindiau da gan eu perchnogion. Maen nhw’n ymddangos hefyd mewn gweithiau creadigol o Gymru, er enghraifft, lluniau a phaentiadau gan Kyffin Williams, heb sôn am mewn englyn enwog gan Thomas Richards. Ac, fel y gwelwch, mae’r ci defaid yn yr englyn hwn o waith Idris Reynolds yn cynrychioli’r holl gŵn annwyl a ffyddlon hynny dros y canrifoedd a fu o gymorth gwirioneddol i’w perchnogion.