Ci Defaid - Idris Reynolds
Ti yw’r ffrind cywirteyrngar, ffyddlon , tirioncaredig ac addfwyn , ti yw clust
Ietgiât, llidiart y closbuarth fferm yn gyson,
Ti wastad yw’r llygad llon,
Ti yw Gelertci Llywelyn Fawr y galon.
(allan o Draw Dros y Don, Idris Reynolds, Cyhoeddiadau Barddas, 2004)
Mae cŵn defaid yng Nghymru yn anifeiliaid gwaith ac yn anifeiliaid anwes, ac yn cael eu hystyried yn ffrindiau da gan eu perchnogion. Maen nhw’n ymddangos hefyd mewn gweithiau creadigol o Gymru, er enghraifft, lluniau a phaentiadau gan Kyffin Williams, heb sôn am mewn englyn enwog gan Thomas Richards. Ac, fel y gwelwch, mae’r ci defaid yn yr englyn hwn o waith Idris Reynolds yn cynrychioli’r holl gŵn annwyl a ffyddlon hynny dros y canrifoedd a fu o gymorth gwirioneddol i’w perchnogion.
Idris Reynolds
Mae Idris Reynolds yn brifardd sy’n byw ym Mrynhoffnant, Ceredigion. Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1989 yn Llanrwst ac yn 1992 yn Aberystwyth. Mae’n hoff iawn o dalyrna ac ymrysona.
Ef oedd enillydd tlws Llyfr y Flwyddyn yn 2017 am ei gyfrol Cofio Dic, sef casgliad o atgofion am y Prifardd Dic Jones.
Gweithgaredd 1
Yn y geiriau ‘clust’ a ‘clos’, mae’r cytseiniaid ‘c’ ac ‘l’ yn ymddangos yn yr un drefn yn y ddau air (‘clust’ a ‘clos’). Uwcholeuwch y cytseiniaid sy’n ymddangos yn yr un drefn yn y parau canlynol o eiriau.
Gweithgaredd 2
Rhowch yr odlau hyn yn y drefn y maen nhw’n ymddangos yn yr englyn.
Gweithgaredd 3
Cysylltwch y brawddegau â'r llinellau perthnasol o'r englyn.
TASG 1
Mewn parau, dysgwch englyn Idris Reynolds ar eich cof, gan brofi eich gilydd am yn ail.
I hwyluso’r dasg, beth am rannu’r englyn yn ddwy: dysgwch y ddwy linell gyntaf i gychwyn, ac wedyn y cwpled olaf?
TASG 2
Ceisiwch ddod o hyd i:
a) Un o luniau Kyffin Williams o gi defaid.
b) Englyn enwog Thomas Richards ‘Ci Defaid’` sy’n cychwyn gyda’r llinell ‘Rhwydd gamwr hawdd ei gymell’.
Sut maen nhw’n cymharu ag englyn Idris Reynolds fel portread o gi defaid?
TASG 3
Atgoffwch eich hun o stori Gelert, ci Llywelyn Fawr.
a) Beth yw rhinweddau Gelert fel cymeriad yn y stori?
b) Pa rai o’r rinweddau hyn sydd hefyd gan y ci defaid yn englyn Idris Reynolds?
TASG 4
a) Lluniwch boster clir ac atyniadol sy’n annog perchnogion i drin eu cŵn mewn modd cyfrifol.
b) Rhestrwch dri o bethau y dylsai’r perchnogion wneud a thri o bethau na ddylsai’r perchnogion wneud o safbwynt gofalu am eu cŵn.
Taflen holl dasgau Ci Defaid:
- PDF (.pdf): Tasgau-Ci-Defaid.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Ci-Defaid.docx