Gweld Hen Ffrind - Gwion Hallam
(a gafodd ei ladd ar foto-beic tra’n fachgen ysgol)
Mae’r byd ’di cadw i droi ers iddo fynd
a’r clociau wedi cadw’u hamser llymsiarp
ers imi glywed sôn am daith fy ffrind
ar awr pan nad oedd amser i ni’n ddim
ond gair; ac yma rwy’n cyfadde’ nawr
na fydda i’n cofio amdano erbyn hyn
wrth drio gwasgu dyddiau i mewn i awr
a methu gwneud y mwya o f’amser prin.
Ond ddoe a minnau’n sownd yn ras y lôn
fe basiodd beic a’i sgrech yn rhyddid gwych,
a dyma’i wên fel golau’n llenwi 'nghofy nghof
nes i mi droi ac estyn at y drych –
a gweld mod innau’n teithio gyda’r byd
tra bod ei wyneb yntau'nef yn iau o hyd.
(allan o Caneuon y Coridorau, Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Gweld Hen Ffrind
Gwion Hallam yn darllen ei gerdd, 'Gweld Hen Ffrind':
Mae amser yn bopeth i rai, gyda phob awr, munud ac eiliad yn cyfri o ddifri. I eraill wedyn, nid yw’n golygu dim. Ond daw eiliadau yn ein bywydau ni pan nad oes dewis gennym ond sylwi ar bresenoldeb a phwysigrwydd amser. Ac eiliad o sylweddoliad o’r math hwnnw sydd yn y soned hon gan Gwion Hallam, eiliad a barodd iddo gofio am ffrind fu farw mewn damwain beic-modur pan oedd y ddau ohonyn nhw yn yr ysgol.
Gweld Hen Ffrind - eglurhad y bardd
Beth sydd gan Gwion Hallam i'w ddweud am ei gerdd?
Gwion Hallam
Dewch i adnabod y bardd:
Gweithgaredd 1
Atebwch y cwestiynau canlynol am y gerdd.
Gweithgaredd 2
Anagramau o ba eiriau yn y gerdd yw’r canlynol?
TASG 1
Mewn parau, rhestrwch yr ymadroddion yn llinellau 1-8 sy’n awgrymu bod bywyd y bardd yn un llawn a phrysur iawn.
TASG 2
Ceisiwch esbonio yn eich geiriau chi eich hun beth yn union y mae’r bardd wedi sylweddoli wrth iddo edrych yn y drych ar ôl i’r beic modur basio heibio iddo (llinellau 9-14)?
TASG 3
a) Pam y tybiwch chi y dewisodd Gwion Hallam y teitl ‘Gweld Hen Ffrind’?
b) Lluniwch restr fer o bump teitl arall a fyddai wedi bod yn addas i’r gerdd.
TASG 4
Dychmygwch mai chi yw’r bardd sydd newydd gael y profiad sy’n cael ei ddisgrifio yn y gerdd.
Ysgrifennwch e-bost (150-200 o eiriau) at hen ffrind sy’n byw yn bell i ffwrdd, ond a oedd hefyd yn perthyn i’r un criw ffrindiau â’r bachgen ‘a gafodd ei ladd ar foto-beic’ slawer dydd.
Yn yr e-bost esboniwch y profiad yr ydych newydd ei gael yn y car y diwrnod hwnnw, gan nodi eich ymateb a’ch teimladau.
Ceisiwch osgoi defnyddio’r un geiriau’n union â Gwion Hallam, os yw’n bosib.
- PDF (.pdf): Gweld-Hen-Ffrind-Tasg-4.pdf
Taflen holl dasgau Gweld Hen Ffrind:
- PDF (.pdf): Tasgau-Gweld-Hen-Ffrind.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Gweld-Hen-Ffrind.docx