Ewro 2016 - Llion Jones
Gerwrth ymyl, yn agos at y lan mae dagrau loespoen, dolur ,
yno, gobeithion einioesbywyd person
a foddwyd, a breuddwydion
dynion da aeth dan y don.
Yn y cof, sŵn drysau’n cau
yw tristwch taro trawstiaudarn o byst gôliau
a llaw ffawddigwyddiad enwog ... yn drylliotorri’n ddarnau mân, chwalu ffydd
ar gaeau’r siom dragywyddyn digwydd o hyd ac o hyd, ar hyd yr oesau .
Hen hanes nawr yw hynny,
o hafau hesbsych, diffrwyth Cymru fuCymru’r gorffennol
cyniwaircrynhoi, dod at ei gilydd mae cân newydd
a’r haf hwn yw Cymru FyddCymru’r dyfodol .
Yn y Rhyl, Rhosneigr, Rhos,
Garnant, Bagillt a Gurnos,
Bedwas, Bala, Llanboidy,
mae Cymru’n un ynom ni.
Ag Ewrop ar y gorwelyn agosáu ,
da yw byw ym myd y bêl,
ciliwchewch yn ôl o dir torcalontristwch mawr
yn un dorf a hwylio’r don.
(Allan o Llion Jones, Bardd ar y Bêl, Cyhoeddiadau Barddas, 2016)
Ym mis Gorffennaf 2016, cyrhaeddodd tîm pêl droed Cymru rownd gyn-derfynol Pencamwpriaeth Ewrop. Ysgrifennwyd y gerdd hon gan Llion Jones ar ddechrau’r bencampwriaeth, y bencamwpriaeth ryngwladol gyntaf i Gymru ei chyrraedd ers Cwpan y Byd ym 1958. Mae’r gerdd yn sôn am y modd y mae’r llwyddiant hwn wedi gwneud yn iawn am holl siom y gorffennol.
Yr actor Rhys Ifans yn darllen cywydd Llion Jones:
Cân swyddogol Manic Street Preachers ar gyfer Ewro 2016:
Uchafbwyntiau Cymru yn Ewro 2016:
Llion Jones
- Brodor o Abergele sy’n byw ym Mhenrhosgarnedd.
- Enillodd gadair Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2000 a chyhoeddodd ei gyfrol gyntaf o gerddi, Pethe Achlysurol yn 2007.
- Aelod o dîm talwrn Caernarfon.
- Mae’n trydar ar Twitter (@LlionJ) mewn cynghanedd yn unig. Cyhoeddodd gasgliad o’r trydariadau hynny yn 2012 yn ei gyfrol, Trydar mewn Trawiadau.
- Mae’n gefnogwr pêl-droed brwd ac roedd ei gyfrol ‘Bardd ar y Bêl’ yn 2016 yn dilyn taith gofiadwy tîm cenedlaethol Cymru i’r Ewros yn Ffrainc drwy gyfrwng ei gerddi.
Gweithgaredd 1
Uwcholeuwch yr holl eiriau neu ymadroddion yn y gerdd sy’n ymwneud â dŵr a’r ddaear.
Gweithgaredd 2
Yn y geiriau ‘Bedwas’ a ‘Llanboidy’, mae’r cytseiniaid ‘b’ a ‘d’ yn ymddangos yn yr un drefn yn y ddau air (‘bedwas’/‘Llanboidy’).
Cynghanedd yw’r enw ar hyn.
Uwcholeuwch y cytseiniaid sy’n ymddangos yn yr un drefn yn y parau canlynol o eiriau.
Gweithgaredd 3
Pa nodwedd arddull sydd yn y llinell ‘a llaw ffawd yn dryllio ffydd’?
Gweithgaredd 4
Cysylltwch y dyfyniad gyda'r nodwedd arddull cywir.
Gweithgaredd 5
Mae'r bardd yn enwi nifer o drefi a phentrefi Cymru yn y gerdd. Ydych chi'n gwybod ym mhle yng Nghymru mae'r llefydd hynny?
TASG 1
Gwyliwch glipiau o uchafbwyntiau gêmau Cymru yn yr Ewros yn 2016. Mewn parau wedyn, byrfyfyriwch gyfweliad rhwng cyflwynydd teledu ac un o chwaraewyr Cymru.
TASG 2
a) Darllenwch y gerdd ‘Ewro 2016’ unwaith eto.
b) Mewn grwpiau dewch o hyd i esiamplau o’r modd y mae’r bardd yn gwrthgyferbynnu gorffennol pêl droed Cymru a phresennol pêl droed Cymru.
TASG 3
Ysgrifennwch bennill pedair llinell sy’n cynnwys dim ond enwau trefi a phentrefi yng Nghymru, ynghyd ag ambell gysylltair os oes angen.
Ceisiwch gael y pennill i odli fesul cwpled, e.e.
Plwmp, Machynlleth, Aberteifi,
Bethel, Wrecsam a Chaergybi,
Tonypandy, Rhyd-y-main,
Penybont ac Abergwaun.
- PDF (.pdf): Ewro-2016-Tasg-3.pdf
TASG 4
Dychmygwch eich bod yn aelod o garfan Cymru yn yr Ewros yn 2016 ac ar fin hedfan i Ffrainc.
a) Ysgrifennwch e-bost at eich teulu yn disgrifio eich teimladau cyn mynd (250 o eiriau).
b) Wedyn ysgrifennwch e-bost arall atynt yn disgrifio eich teimladau ar ddiwedd y bencampwriaeth (250 o eiriau).
- PDF (.pdf): Ewro-2016-Tasg-4.pdf
Taflenni holl dasgau Ewro 2016:
- PDF (.pdf): Tasgau-Ewro-2016.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Ewro-2016.docx
- PDF (.pdf): Taflenni-Gwaith-Tasgau-Ewro-2016.pdf