Nyth - Roger Jones
Ni fu saercrefftwr neu grefftwraig sy’n trin pren na’i fesuriadmesuriad = hyd, lled neu uchder yn rhoi graenôl gallu, sglein
Ar ei grefftcrefft = gwaith llaw arbenigol a’i drwsiadtrwsiad = gwaith trwsio ;
Dim ond adar mewn cariad
Yn gwneud tŷ heb ganiatâdcaniatâd = rhoi hawl .
(Allan o Y Flodeugerdd Englynion Newydd, Cyhoeddiadau Barddas, 2009)
Er mwyn adeiladu tŷ yn y wlad hon, mae’n rhaid cael caniatâd cynllunio gan Lywodraeth Cymru. Mae angen adeiladwyr a chrefftwyr at y gwaith hefyd, yn arbennig felly, saer. Ond, os sylwch chi’n agos ar lwyni a choed; os craffwch chi o dan y bondo ac mewn pob math o gorneli tywyll eraill o gwmpas y lle, fe welwch gartrefi o fath gwahanol iawn. Yn ôl yr englyn hwn, yr un teimlad greddfol sy’n ysbrydoli creu’r cartrefi hynny ag sy’n ysbrydoli creu ein cartrefi ni.
Roger Jones (1903 - 1982)
- Bardd a Gweinidog o Roshirwaun, Llŷn.
- Roedd yn hoff iawn o fesur y cywydd a’r englyn.
Edrychwch ar y fideo sydyn yma sy'n dangos pâr o wenoliaid yn adeiladu nyth dros gyfnod o wythnos:
Gweithgaredd 1
Atebwch y cwestiynau canlynol.
Gweithagredd 2
Anagramau o ba eiriau yn yr englyn yw’r canlynol?
Gweithgaredd 3
Rhowch frawddegau'r englyn yn eu trefn cywir.
TASG 1
Mae’r englyn yn sôn yn llythrennol am adar yn adeiladu nyth – pâr o gariadon yn penderfynu byw gyda’i gilydd a dechrau teulu.
Ond mae trosiad yma hefyd.
Trafodwch, felly, i ba raddau y gallai’r englyn ‘Y Nyth’ hefyd fod yn englyn am bobl, nid dim ond yn englyn am adar?
TASG 2
Dysgwch yr englyn ar eich cof. Gwnewch hyn gyda phartner.
- Dechreuwch drwy ei gyd-lefaru gyda chopi o’ch blaen.
- Yna cydlefarwch yr englyn gyda un o’r ddau ohonoch yn edrych ar y copi a’r llall yn edrych i ffwrdd.
- Yna cydlefarwch gan newid pwy sy’n edrych ar y copi a phwy sy’n edrych i ffwrdd.
- Yna cydlefarwch gyda’r ddau ohonoch yn edrych ar y copi unwaith eto.
- Yna cydlefarwch gyda’r ddau ohonoch yn edrych i ffwrdd o’r copi.
- Yna llefarwch yr englyn yn unigol, un ar ôl y llall!
Os yw hyn yn ormod i chi, dechreuwch gyda’r ddwy linell gyntaf i gychwyn, gan ddilyn yr un drefn ag uchod. Wedyn gwnewch yr un peth gyda’r ddwy linell olaf. Wedyn rhowch nhw at ei gilydd.
TASG 3
Petasech chi’n cael cyfle i enwi neu ailenwi’r tŷ/tai rydych yn byw ynddo/ynddyn nhw nawr, beth ddewisech chi?
Gwnewch restr fer o bosibiliadau. Meddyliwch am enwau doniol posib, yn ogystal ag am rai a fyddai’n gweddu i’r dim.
Ac wedi gwneud hynny, meddyliwch am enwau newydd posib i’ch ysgol ...
TASG 4
Lluniwch bennill addas i’r roi mewn cerdyn cyfarch i rywun sy’n symud i dŷ newydd. Gorau oll os yw’n bennill pedair llinell.
- PDF (.pdf): Nyth-Tasg-4.pdf
Taflen holl dasgau Nyth:
- PDF (.pdf): Tasgau-Nyth.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Nyth2.pdf