Tro Gwael - Gwennan Evans
Gwisgodd ei grys West Hamtîm pêl droed enwog o Lundain
er ei fod yn rhy fach yn barod,
i ddangos fod yr anrheg
pen-blwydd yn plesio.
Daeth â’i albwm sticerillyfr i ludo sticeri o chwaraewyr
fel y gwelai mor ddiwyddiwyd = gweithgar y bu.
Bu’n ymarfer,
yn gyrru’i fam o’i cho’
â sŵn y bêl
yn dyrnutaro, bwrw talcen y tŷwal ochr y tŷ .
A neithiwr
gwyliodd y gêm
fel bod ganddo sgwrs.
Ond ar ben ei hun
ar fainc yn y parc
y treuliodd y bore
yn magugofalu amdani, cofleidio ’r bêl yn ei gôlcôl = cofl, arffed .
(Allan o Pigion y Talwrn [13], Cyhoeddiadau Barddas, 2016)
Tro Gwael
Gwennan Evans yn darllen ei cherdd, 'Tro Gwael':
Rydym yn awyddus iawn i blesio’r bobl hynny rydym yn eu caru, ac yn awyddus iawn i dreulio amser yn eu cwmni. Ond, am wahanol resymau, nid yw hyn wastad yn bosib, sy’n siom i ni. Yn y gerdd hon, mae’r bachgen bach yn edrych ymlaen at gael treulio amser yn y parc gyda’i dad, yn enwedig felly gan nad yw’r tad yn byw gyda’r teulu mwyach.
Tro Gwael - eglurhad y bardd
Gwennan Evans yn sôn am ei cherdd, 'Tro Gwael':
Gwennan Evans
Dewch i adnabod y bardd:
Gweithgaredd 1
Uwcholeuwch y cyfeiriadau at bêl-droed sydd yn y gerdd.
Gweithgaredd 2
Darllenwch y gerdd eto ac atebwch y cwestiynau canlynol.
Gweithgaredd 3
Rhowch yr ymadroddion yn y drefn y maen nhw’n ymddangos yn y gerdd.
TASG 1
Mae’n amlwg bod y bachgen yn y gerdd yn awyddus iawn i blesio’i dad.
a) Pam y tybiwch ei fod mor awyddus i wneud hynny?
b) Pa esiamplau o ymdrechion y bachgen i blesio sydd yn y gerdd?
TASG 2
Nid yw’r pennill olaf yn esbonio pam mae’r bachgen ‘ar ei ben ei hun’ yn y parc.
A oes unrhyw awgrymiadau yn gynharach yn y gerdd pam mai dyma’r sefyllfa?
Neu, a oes gennych chi unrhyw esboniadau posib?
Yn eich atebion, ceisiwch gyfuno dychymyg a thystiolaeth.
TASG 3
Dychmygwch fod y bachgen yn mynd adref o’r parc yn ddigalon. Ar ei gyfrifiadur mae neges e-bost gan ei dad yn esbonio’i absenoldeb.
Ysgrifennwch y neges e-bost honno (100 o eiriau) ac wrth gynnig eich esboniad, ceisiwch hefyd awgrymu pa fath o berthynas sydd rhwng y tad a’r mab.
- PDF (.pdf): Tro-Gwael-Tasg-3.pdf
TASG 4
Dychmygwch fod y bachgen yn cadw dyddiadur cyfrinachol. Yn y dyddiadur hwnnw mae’n storio’i feddyliau mwyaf personol a phreifat.
Ysgrifennwch ei gofnod dyddiadur ar gyfer y diwrnod siomedig hwn yn ei hanes.
- PDF (.pdf): Tro-Gwael-Tasg-4.pdf
Taflenni holl dasgau Tro Gwael:
- PDF (.pdf): Tasgau-Tro-Gwael.pdf
- Word (.docx): Tasgau-Tro-Gwael.docx
- PDF (.pdf): Taflenni-Gwaith-Tasgau-Tro-Gwael.pdf