Taid

Taid - Dic Jones

Ei ddwylo fel dwy ddeilen, – y mae’r grymnerth, pŵer, cryfder

          O’r gwraiddgwreiddyn ... wedi gorffen,

     Mae ’nhaid nawr yn mynd yn hen,

     Ddoe’n graigcraig = darn mawr iawn o garreg a heddiw’n gragencasyn neu orchudd allanol .

Mae pobl ifainc yn aml yn awyddus i fod yn hŷn. Ond nid i fod yn hen, chwaith. A cherdd am heneiddio yw’r englyn hwn gan un o feirdd gorau’r ugeinfed ganrif, sef Dic Jones. Yn y gerdd mae’n disgrifio’r modd y mae’r dyn hwn wedi newid yn gorfforol wrth fynd yn hŷn. Mae’n amlygu’r gwahaniaeth rhwng Taid yn ŵr ifanc a Taid yn hen ŵr, ac mae hwn yn destun tristwch.

Dic Jones (1934-2009)

 

p03gy2t7

 

Cafodd Richard Lewis Jones (Dic Jones) ei eni yn 1934 yn Nhre'r Ddôl yng ngogledd Ceredigion, ond fel Dic Yr Hendre y daeth i'w adnabod gan mai ar fferm Yr Hendre ym Mlaenannerch ger Aberteifi y bu'n byw mwyafrif ei oes.

Roedd Dic Jones yn un o feirdd Cymraeg gorau'r ugeinfed ganrif ac fe gyhoeddodd 4 cyfrol o farddoniaeth. Roedd yn gallu barddoni'n arbennig am y dwys a'r digrif. Roedd yn fardd ei filltir sgwâr ond hefyd yn fardd cenedlaethol.

Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd 5 gwaith yn olynol yn y 1950au, gan ennill Cadair Eisteddfod Genedlaethol Aberafan yn 1966 gydag awdl 'Y Cynhaeaf'.

Ffermwr oedd Dic, ac roedd amaethyddiaeth a byd natur yn ysbrydoli ei farddoniaeth. Ef oedd y ffermwr cyntaf erioed i ddod yn Archdderwydd pan gafodd ei benodi yn 2008. Bu farw wedi blwyddyn yn unig fel Archdderwydd Cymru.

 

Gweithgaredd 1

Atebwch y cwestiynau canlynol am y gerdd.

Gweithgaredd 2

Pa eiriau neu ymadroddion sy’n dangos cryfder y gŵr ifanc a pha eiriau neu ymadroddion sy'n dangos gwendid yr hen ddyn?

Gweithgaredd 3

Yn y geiriau ‘ddwylo’ a ‘ddeilen’, mae’r cytseiniaid ‘dd’ ac ‘l’ yn ymddangos yn yr un drefn yn y ddau air (‘ddwylo’/‘ddeilen’).

Cynghanedd yw hyn.

Uwcholeuwch y cytseiniaid sy’n ymddangos yn yr un drefn yn y parau canlynol o eiriau.