‘Hen Wlad fy Nhadau’ yw anthem genedlaethol Cymru. Ysgrifennwyd y geiriau gan y gwehydd (weaver) Evan James o Bontypridd, ac fe gyfansoddwyd y dôn gan ei fab, James James, ym 1856. Yn y ddau bennill cyntaf, mae’r bardd yn rhestru’r math o bobl a’r math o bethau yng Nghymru sy’n annwyl ac yn bwysig iddo. Yn y pennill olaf, mae’n cyfeirio’n benodol at y ffaith fod y Cymry a’r Gymraeg wedi bod dan fygythiad dros y canrifoedd. Mae’r gytgan yn mynegi gwladgarwch y bardd, a’i obaith y bydd yr ‘hen iaith’ yn parhau am byth.