Nid pawb, wrth gwrs, sy’n mwynhau chwaraeon ac ymarfer corff. Yn y gerdd ‘Chwaraeon’ mae Mari Lovgreen yn cyfaddef ei bod hi’n berson diog, cyn rhestru rhai o’r gêmau nad yw hi yn eu hoffi, gan holi pam mae’n rhaid eu chwarae o gwbl.