Gwedd Gyflwyno

Hillsborough, 1989

Nid testun hwyl a llawenydd yw chwaraeon bob tro. Weithiau mae digwyddiadau oddi ar y cae yn bwrw cysgod dros y gêm ei hun. A dyna a ddigwyddodd ar Ebrill 15, 1989, pan fu farw 96 o gefnogwyr Lerpwl yn Stadiwm Hillsborough yn Sheffield. Digwyddodd hyn wedi i’r heddlu ganiatáu i ormod o gefnogwyr gael mynediad i deras oedd yn orlawn eisoes. Yn y gerdd hon, mae Alan Llwyd yn ein hatgoffa o’r hyn yr oedd pobl wedi disgwyl ei weld ar ôl y gêm y diwrnod hwnnw – roedd hi’n gêm ‘bwysig’, wedi’r cyfan, gêm gyn-derfynol Cwpan F.A. rhwng Lerpwl a Nottingham Forest. Ond wedyn, mae’n dangos i ni olygfa wahanol, a honno’n olygfa nad oedd neb wedi disgwyl ei gweld.